Mae rheolwr Cymru, Chris Coleman wedi dweud bod ei dîm yn fygythiad ar y llwyfan rhyngwladol.

Mae Cymru ar frig Grŵp B yn rowndiau rhagbrofol Ewro 2016 yn dilyn eu buddugoliaeth o 1-0 dros Wlad Belg yng Nghaerdydd nos Wener.

Bydd yr enwau ar gyfer rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd yn cael eu tynnu o’r het fis nesaf, ac fe fydd Cymru ymhlith y prif ddetholion.

Mae Cymru bellach uwchben Ffrainc, yr Eidal a Sbaen yn y rhestr ddetholion, ac fe allen nhw godi uwchben Lloegr.

Dywedodd Chris Coleman: “Ry’n ni bellach yn chwaraewr ar y llwyfan byd-eang.

“Rhaid i ni beidio meddwl amdanon ni ein hunain fel Cymru fach, ac ry’n ni wedi gwneud hynny.

“Ry’n ni’n credu y gallwn ni wneud rhywbeth arbennig yn ystod yr ymgyrch yma ac ry’n ni’n haeddu bod yn yr uchelfannau.

“Mae’n cymryd amser i godi yn y rhestr ddetholion, yn enwedig pan fyddwch chi’n ystyried ein bod ni’n rhif 112 [ar un adeg], ac fe fu newid mawr o’i gymharu â lle’r oedden ni.”

Ychwanegodd y byddai’n bonws cael codi uwchben Lloegr.

Mae Gareth Bale wedi sgorio pum gôl yn ystod yr ymgyrch, ac mae e bellach yn chweched ar restr prif sgorwyr Cymru.

Wrth drafod seren Cymru, dywedodd Coleman:  “Mae e wedi dangos beth mae e’n gallu gwneud gyda’r bêl a heb y bêl ac mae e wedi gweithio’n galed iawn unwaith eto.”