Mae pennaeth pwyllgor sy’n ymchwilio i honiadau o dwyll a llwgrwobrwyo gan rai o swyddogion FIFA wedi galw ar lywydd y corff, Sepp Blatter i ymddiswyddo ar unwaith.
Ychydig ddyddiadau wedi iddo gael ei ail-ethol, cyhoeddodd Blatter ei fwriad i ymddiswyddo, gan ychwanegu y byddai’n parhau yn y swydd tan bod modd penodi ei olynydd.
Ond mae Domenico Scala wedi dweud y dylai adael ei swydd ar unwaith.
Daw datganiad Scala wedi i bapur newydd yn y Swistir, Schweiz am Sonntag adrodd fod Blatter wedi ceisio cefnogaeth gwledydd Affrica ac Asia er mwyn cael parhau’n llywydd am y tro.
Bydd pwyllgor gwaith FIFA yn cwrdd ar Orffennaf 20 er mwyn pennu dyddiad ar gyfer ethol llywydd newydd.