Mae hoelion wedi cael eu darganfod ar rannau o lwybr ras Velothon Cymru y bore ma.

Dywedodd y trefnwyr nad oedd unrhyw un wedi cael ei anafu, ond bod nifer o gystadleuwyr wedi cael pynjar.

Mewn datganiad, dywedodd cyfarwyddwr y gystadleuaeth, Andy Taylors: “Gallwn gadarnhau fod nifer fach o daciau wedi cael eu darganfod oddeutu 9.30yb ar rannau ynysig o’r llwybr ar Ffordd Belmont yng Nghaerllion ac am 10.02yb yn y Stryd Fawr/Heol Newydd yng Nghaerffili.

“Yn ffodus, ni chafwyd unrhyw ddamweiniau nac anafiadau a chafodd yr ardaloedd dan sylw eu clirio o fewn ychydig funudau.”

Mae Velothon Cymru’n un o rasys cyfres Velothon Majors – cystadleuaeth ryngwladol sy’n cael ei chynnal yn rhai o ddinasoedd mwyaf eiconig y byd.

Cafodd Cymru ei dewis eleni oherwydd cynnydd ym mhoblogrwydd seiclo yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Dywed y trefnwyr y bydd y digwyddiad yn arwain at Gymru’n dod yn un o brif ganolfannau seiclo’r byd.

Hoelion

Nid dyma’r tro cyntaf i hoelion amharu ar rasys seiclo.

Yn ystod Etape Cymru yn 2013, cafodd hoelion eu gosod ar lwybr 88 milltir ras Etape Cymru yn ardaloedd Wrecsam a Rhuthun.

Ddechrau’r mis, cafodd piniau bawd eu gosod ar lwybr ras ar hyd afon Cam yng Nghaergrawnt.

Y llynedd, cafodd mwy nag 20 o seiclwyr pynjar yn ystod ras yn y New Forest yn Swydd Hampshire.

Tour de France

Yn 2012, cafodd taciau eu taflu ar lwybr Tour de France, pan fu’n rhaid i Bradley Wiggins arafu er mwyn galluogi arweinydd y ras, Cadel Evans i adennill ei le ymhlith arweinwyr y ras.

Cafodd 30 o seiclwyr pynjar yn ystod y ras honno.

Bydd uchafbwyntiau Velothon Cymru’n cael eu dangos ar S4C nos Lun am 10yh.