Mae hyd at 15,000 wedi ymgasglu yng Nghaerdydd ar gyfer dechrau ras seiclo Velothon Cymru – y digwyddiad seiclo ffyrdd mwyaf erioed yng Nghymru.
Roedd disgwyl i filoedd o bobol ymgasglu ar strydoedd y De wrth i gystadleuwyr profiadol a phroffesiynol fynd i’r afael â chwrs 140km o hyd.
Llwybr 50km o hyd yw’r her i gystadleuwyr llai profiadol.
Penllanw’r digwyddiad yw ras gan seiclwyr proffesiynol sy’n debygol o ddenu rai o gystadleuwyr mwya’r byd.
Mae tîm Syr Bradley Wiggins yn cystadlu yn y ras broffesiynol, er nad yw’r dyn ei hun yn cystadlu.
Bydd rasys ieuenctid hefyd yn cael eu cynnal rhwng 10yb a 5yh drwy ganol dinas Caerdydd.
Mae’r cystadleuwyr 50km wedi bod wrthi ers 7yb a’r cystadleuwyr 140km wedi bod wrthi ers 7.45yb.
Bydd ras 194km yn dechrau am 12.40yp, ac mae disgwyl i enillydd y categori proffesiynol groesi’r llinell derfyn oddeutu 5.15yp.
Yn ystod y rasys, bydd cystadleuwyr yn teithio o Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd i Gasnewydd, Brynbuga, Bannau Brycheiniog, Pontypŵl, Trecelyn, Caerffili ac yn ôl i Gaerdydd.
Mae Velothon Cymru’n un o rasys cyfres Velothon Majors – cystadleuaeth ryngwladol sy’n cael ei chynnal yn rhai o ddinasoedd mwyaf eiconig y byd.
Cafodd Cymru ei dewis eleni oherwydd cynnydd ym mhoblogrwydd seiclo yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Dywed y trefnwyr y bydd y digwyddiad yn arwain at Gymru’n dod yn un o brif ganolfannau seiclo’r byd.
Mae rhestr o’r ffyrdd sydd ynghau ar wefan Velothon Cymru. Gallwch weld y canlyniadau yma.
Bydd uchafbwyntiau Velothon Cymru’n cael eu dangos ar S4C nos Lun am 10yh.