Mae prif hyfforddwr Gwlad yr Haf, Matthew Maynard wedi beirniadu tactegau ei gapten Alfonso Thomas, wedi iddyn nhw gael eu curo gan Forgannwg o ddau rediad trwy ddull Duckworth-Lewis yng Nghaerdydd heddiw.

Cyrhaeddodd yr ymwelwyr 159-5 ar ddiwedd eu hugain pelawd, diolch yn bennaf i fatiad o 84 heb fod allan gan Tom Cooper.

Wrth i Forgannwg ddechrau eu batiad gyda nod o 160 am y fuddugoliaeth, roedden nhw’n 43-1 – dau rediad ar y blaen trwy ddull Duckworth-Lewis gan wybod fod y fuddugoliaeth yn ddiogel pe na baen nhw’n dychwelyd i’r cae.

Ffrae ar y cae

Roedd y capteniaid Jacques Rudolph ac Alfonso Thomas yn ymwybodol o’r sefyllfa ac roedd geiriau cryf rhwng y ddau o Dde Affrica wrth i’r chwaraewyr adael y cae am y tro olaf.

Yn dilyn y ffrae, dywedodd Matthew Maynard: “Mae’r ddau yn ‘Afrikaners’ angerddol – roedd tipyn o sgwrs yn Afrikaans am y peth. Trafodd dull Duckworth-Lewis oedden nhw.

“Fel arfer, ry’ch chi’n cael gwybod y cyfanswm ar ddiwedd y belawd ar y sgorfwrdd. Heddiw, fe benderfynon nhw wneud popeth ar ddiwedd pob pelen, sy’n syniad gwych dw i’n meddwl.

“Roedd tipyn o emosiwn yn y peth dw i’n meddwl. Dyw’r dyfarnwyr ddim wedi’u beirniadu nhw nac wedi crybwyll y peth, felly dyw e ddim yn rhywbeth mawr.”

Tactegau Thomas

Roedd Maynard yn siomedig gyda pherfformiad y sir ar ddiwedd yr ornest ac yn feirniadol o dactegau Thomas wrth geisio achub y blaen ar Forgannwg cyn i’r glaw ddod.

“Fe wnaethon ni newid ein system yn y chwe phelawd gyntaf ac fe gostiodd hynny’n ddrud i ni.

“Fe gawson ni gyfle yn y chwe phelawd gyntaf i waredu ar Rudolph ond wnaethon ni ddim cymryd y cyfle hwnnw.

“Yn anffodus, ry’n ni’n colli cyfleoedd o hyd.

“Ry’n ni’n siomedig iawn ein bod ni wedi cefnu ar system oedd yn llwyddiannus yr wythnos diwethaf, ac alla i ddim deall pam wnaethon ni hynny.

“Ar ddiwedd y dydd, y capten sydd wrth y llyw allan ar y cae a fe sy’n gwneud y penderfyniadau.”

“Mae’r system wedi bod yn gweithio. Dylen ni gadw ati tan ei bod yn methu ac wedyn edrych ar sut i’w gwella.

“Os y’ch chi’n newid pethau o hyd ac o hyd, does gyda chi ddim byd i gwympo nol arno fe a dim ffordd o fesur sut ry’ch chi’n gwneud pethau.”

Dychwelyd i Gymru

Ar lefel bersonol, dyma’r tro cyntaf i Maynard ddychwelyd fel hyfforddwr sir arall ers iddo golli ei swydd fel prif hyfforddwr Morgannwg yn 2010.

“Ro’n i’n gwybod y byddai’n ddiddorol cael dychwelyd am y tro cyntaf,” meddai, “ac ro’n i’n credu y gallai fod yn anodd ond mae popeth wedi mynd yn iawn.”