Mae Morgannwg wedi curo Gwlad yr Haf o ddau rediad trwy ddull Duckworth-Lewis ar ddiwrnod gwlyb yng Nghaerdydd.

Cafodd yr ymwelwyr eu gwahodd i fatio’n gyntaf, a dechrau digon sigledig gawson nhw wrth iddyn nhw gyrraedd dim ond 19-2 erbyn diwedd y cyfnod clatsio.

Wayne Parnell oedd bowliwr gorau Morgannwg, wrth iddo gipio dwy wiced am 16.

Tom Cooper oedd yr unig sgoriwr o nod i Wlad yr Haf, wrth iddo daro 84 heb fod allan i achub yr ymwelwyr.

Roedd Morgannwg wedi cyrraedd 43-1 erbyn diwedd y cyfnod clatsio wrth ymateb i gyfanswm Gwlad yr Haf, ond buan y daeth y glaw i atal yr ornest, a’r Cymry sy’n hawlio’r pwyntiau ar ddiwedd y dydd.