Roedd myfyrwyr wedi meddiannu un o’r ystafelloedd cyffredin yn Neuadd Pantycelyn ym Mhrifysgol Aberystwyth y bore ma.
Roedd disgwyl i breswylwyr adael y neuadd erbyn 10 o’r gloch y bore ma, ond heb sicrwydd y bydd y neuadd ar agor ym mis Medi, mae nifer o fyfyrwyr wedi gwrthod gadael.
Dyma’r cam diweddaraf yn y frwydr i sicrhau nad yw’r neuadd yn cau i fyfyrwyr Cymraeg y brifysgol o fis Medi.
Mae’r brifysgol wedi argymell cau’r adeilad er mwyn gwneud gwaith atgyweirio angenrheidiol iddi, ac fe fydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud yng nghyfarfod Cyngor y brifysgol mewn deg diwrnod.
Mynnodd y brifysgol y byddai’r myfyrwyr cyfrwng Cymraeg yn cael eu hadleoli i lety priodol dros dro petai Pantycelyn yn gorfod cau.
Ond mae Prifysgol Aberystwyth yn cael ei chyhuddo o dorri addewid a wnaethon nhw llynedd i gadw’r neuadd breswyl ar agor, yn ôl yr ymgyrchwyr iaith.
Mewn datganiad, dywedodd Cadeirydd Cell Pantycelyn Cymdeithas yr Iaith, Gwilym Tudur: “Heddiw, mae myfyrwyr Neuadd Pantycelyn i fod i symud allan o’r neuadd, ond mae rhai wedi penderfynu aros gan nad oes sicrwydd y byddwn ni’n cael dod nôl fis Medi – na wedi hynny.
“Er i’r Brifysgol addo llynedd y byddai Pantycelyn yn aros ar agor yn ddi-amod dyma nhw wedi bradychu myfyrwyr a staff y Neuadd.”
Bydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth yn cwrdd i drafod y mater ar Fehefin 22, ac mae disgwyl penderfyniad terfynol ar ddyfodol y neuadd.
Ychwanegodd Gwilym Tudur: “Rydym yn galw ar bob un o aelodau’r Cyngor i beidio derbyn argymhellion y Brifysgol i gau’r neuadd ond yn hytrach i ddiogelu un o unig gymunedau naturiol Gymraeg Cymru.”
Cefnogaeth Carwyn Jones
Yn ddiweddar fe ddywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, sydd yn gyn-fyfyriwr yn Neuadd Pantycelyn, fod angen llety penodedig ym Mhrifysgol Aberystwyth er mwyn i’r Gymraeg allu ffynnu yno.
“Bydden i’n siomedig i weld Pantycelyn yn cau,” meddai Carwyn Jones, sy’n gyfrifol am y Gymraeg o fewn Llywodraeth Cymru.
“Rwy’n credu bod y nod o gael neuadd lle mae’r Gymraeg yn brif iaith, a’r unig iaith, yn bwysig dros ben.
“Dw i ddim yn dweud bod rhaid iddi fod yn yr adeilad yna [Pantycelyn]. Ond mae’n bwysig bod neuadd breswyl lle mae’r Gymraeg yn iaith naturiol.
“Doedd yr adeilad ddim mewn cyflwr ffantastig pan oeddwn i yna. Yr unig wahaniaeth rwy’n gweld yw bod y lifft wedi newid, mae lifft awtomatig yna nawr.”
Dywedodd y Prif Weinidog y byddai’n dymuno gweld y brifysgol yn addo agor neuadd Gymraeg arall petai Pantycelyn yn cau ei drysau i fyfyrwyr.
“Mae’n bwysig dros ben i gael awyrgylch Gymraeg,” meddai. “Fe fydd hi’n anodd os na fydd neuadd lle mae hynny’n digwydd.”
Ymateb y Brifysgol
Dywedodd llefarydd ar ran y Brifysgol: “Mae Prifysgol Aberystwyth yn gwbl ymroddedig i ddarparu llety dynodedig cyfrwng Cymraeg, ac yn deall ac yn gwerthfawrogi’r angen am gymuned lle mae’r iaith Gymraeg yn cael ei siarad bob dydd, lle gall y rhai sy’n dysgu’r iaith ymgolli mewn cymuned naturiol Gymraeg, a lle mae gweithgareddau diwylliannol Aelwyd Pantycelyn, gweithgareddau Cymdeithasau Cymraeg a gwaith ymgyrchu Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA) yn medru ffynnu.
“Mae hyn yn rhan o’n treftadaeth ac yn parhau’n greiddiol i’n gweledigaeth i’r dyfodol.
“Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf bu Gweithgor Pantycelyn, a fu’n cynnwys cynrychiolwyr y myfyrwyr, yn ystyried y gwaith sydd ei angen i adnewyddu adeilad Pantycelyn.
“Mae adroddiad gan y Gweithgor, gafodd ei gyflwyno i’r Brifysgol ym mis Mai, yn nodi’r galw am fuddsoddiad o rhwng £5.5m ac £11m, gwaith y mae’r Brifysgol yn rhagweld y bydd angen 3 blynedd i’w gyflawni.
“Yn y cyfamser, mae angen buddsoddiad tymor byr o fwy na £1m cyn diwedd y flwyddyn nesaf mewn ymateb i’r asesiad risg tân diweddaraf ac argymhellion Arolwg Cyflwr annibynnol ar yr adeilad.
“Yn sgil adroddiad Gweithgor Pantycelyn a’r angen am fuddsoddiad tymor byr sylweddol, mae’r Brifysgol yn argymell darparu llety penodedig Cymraeg arall ar gyfer cymuned Pantycelyn o fis Medi 2015.
“Eisoes mae’r Brifysgol wedi cynnal trafodaethau ac ymweliadau safle gydag UMCA ac Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth i’r llety a’r gofod cymunedol a chymdeithasol a fydd ar gael ar eu cyfer, petai Pantycelyn ddim ar gael.
“Bydd y llety hwn wrth galon campws Penglais ac yn cynnig gofod cymdeithasol a chymunedol hael er mwyn hwyluso parhad yr ymdeimlad o gymuned ar y cyd ymhlith y myfyrwyr.
“Yn y cyfamser, bydd y gwaith o gynllunio dyfodol hir dymor adeilad Pantycelyn yn parhau, a hynny mewn ymgynghoriad llawn gydag UMCA a chynrychiolwyr y myfyrwyr.”
Cymdeithas yr Iaith
Dywedodd Swyddog Maes Dyfed Cymdeithas yr Iaith, Bethan Williams wrth Golwg360: “Mae pobol wedi bod yn ad-drydar, yn anfon negeseuon ar Twitter ac yn y blaen.
“Mae pobol yn parhau i gyrraedd – rhai yn aros ac eraill yn galw i mewn am ychydig i gefnogi.
“Mae’n amlwg bod cefnogaeth ar draws Cymru i un o’n hadeiladau eiconig.
“Dyw’r Brifysgol ddim wedi gwrando ac felly mae’r myfyrwyr wedi penderfynu cymryd camau mwy difrifol.
“Mae’r camu heddiw’n un peth mae UMCA a’r Gymdeithas yn ei wneud i ddarbwyllo’r Brifysgol fod angen gwrando ar lais myfyrwyr.”
Pan siaradodd Golwg360 â Bethan Williams, roedd tua 15 o bobol yn y neuadd o hyd, a does dim sicrwydd ar hyn o bryd am ba hyd fyddan nhw’n aros yno.
“Yr hyn mae myfyrwyr Pantycelyn am ei gael yw neuadd unigryw sy’n gweddu i gymuned Gymraeg.
“Mae’r brifysgol wedi dweud y byddan nhw’n rhoi llety Cymraeg i fyfyrwyr, ond mae holl gyfleusterau Pantycelyn mewn un lle.
“Fyddai unrhyw neuadd arall jyst ddim yn gwneud y tro.”