Mae trafodaethau’n cael eu cynnal yn y gobaith o atal gweithwyr dur Tata Steel
rhag streicio.
Mae aelodau pedwar o undebau yn bwriadu cynnal streic 24 awr ar Fehefin 22 ar ôl i’r cwmni gefnu ar gynllun pensiwn cyflog terfynol.
Ond dywed Tata fod rhaid iddyn nhw geisio lleihau diffyg ariannol o £2 biliwn.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Tata Steel: “Rydyn ni wedi cysylltu ag Acas er mwyn tynnu arbenigwyr annibynnol i mewn i ganoli i ddod i ddatrys ynghylch yr anghydfod pensiynau yn y DU.
“Rydyn ni wedi bod yn siarad â’r undebau llafur ers mis Tachwedd 2014 er mwyn datblygu cynllun pensiwn teg a chynaladwy ar gyfer holl weithwyr y DU.
“Mae’r cwmni ac undebau’n cytuno fod angen gwneud newidiadau er mwyn mynd i’r afael â diffyg arfaethedig y cwmni o hyd at £2 biliwn.
“Bwriad y cwmni o hyd yw darparu cynllun pensiwn cystadleuol o ansawdd uchel i’n gweithwyr, tra’n parhau â record sylweddol Tata Steel o fuddsoddi yn ei asedau yn y DU fel y gallwn adeiladu busnes gynaladwy yma.”