Gareth Bale ac Aaron Ramsey yn dathlu'r gôl neithiwr (llun: David Davies/PA)
Mae Gareth Bale wedi disgrifio cefnogwyr Cymru fel y rhai “gorau yn y byd” wedi iddyn nhw ruo’r tîm i fuddugoliaeth hanesyddol dros Wlad Belg neithiwr.
Bale sgoriodd unig gôl y gêm, a hynny ar ei 50fed cap, wrth i fechgyn Chris Coleman godi i frig Grŵp B gyda’r fuddugoliaeth a chymryd cam mawr tuag at gyrraedd Ewro 2016 yn Ffrainc y flwyddyn nesaf.
Mae Cymru bellach tri phwynt yn glir ar frig y grŵp rhagbrofol, gyda phedair gêm i ddod yn erbyn Cyprus, Israel, Bosnia ac Andorra.
Ac mae’r fuddugoliaeth dros Wlad Belg, sydd yn ail yn netholiadau’r byd, yn golygu y bydd Cymru ymysg y prif ddetholion pan fydd grwpiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2018 yn cael eu dewis.
“Gorau yn y byd”
Roedd dros 33,000 o gefnogwyr yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn canu a bloeddio cefnogaeth i’r tîm, ac yn ôl Bale roedd yr awyrgylch cystal ag unrhyw beth mae erioed wedi’i weld.
“Mae gennym ni’r cefnogwyr gorau yn y byd, dw i ddim wedi gweld awyrgylch tebyg i hwnna llawer o weithiau yn fy holl yrfa,” meddai ymosodwr Cymru.
“Gobeithio bydd y cefnogwyr yn parhau i droi lan a chefnogi’r bechgyn a pharhau gyda pherfformiadau fel ‘na.”
Cefnogwyr Cymru yn mwynhau cân Zombie Nation cyn y gêm:
“Arbennig iawn”
Fe fydd carfan Cymru nawr yn hyderus eu bod nhw’n gallu cyrraedd twrnament rhyngwladol am y tro cyntaf mewn bron i 60 mlynedd.
Ac roedd y fuddugoliaeth o 1-0 yn goron ar noson arbennig i Bale, oedd yn ennill ei hanner canfed cap.
“Roedd e’n arbennig iawn, iawn ac emosiynol iawn, roedd gen i fy nheulu a fy ffrindiau i gyd yma i ddathlu’r 50fed, ond y peth pwysig oedd cael y fuddugoliaeth heno a chael perfformiad da,” meddai.
“Dy’n ni ddim yna eto, rydyn ni’n gwybod ein bod ni mewn safle da, ac fe wnawn ni fwynhau’r canlyniad yma wrth gwrs. Ond yn y gêm nesaf wedyn fe wnawn ni ffocysu a bod yn barod.
“Mae’n hawdd dechrau breuddwydio’n barod, rydyn ni’n gwybod ein bod ni mewn safle gwych, ond mae lot o waith caled i ddod.
“Mae pawb yn gwybod faint dwi eisiau cyrraedd twrnament mawr gyda Chymru, mae e reit ar frig fy rhestr, ac mae’n bosib, felly mi wnawn ni barhau i weithio’n galed.”