Tarodd y capten Jacques Rudolph ganred oddi ar 70 o belenni i arwain Morgannwg i fuddugoliaeth o 19 o rediadau dros Swydd Gaerloyw ym Mryste neithiwr.
Tarodd y batiwr llaw chwith o Dde Affrica 13 o ergydion i’r ffin yn ystod batiad o 101 heb fod allan, wrth i’r Cymry osod nod o 192 i’r Saeson wedi iddyn nhw gael eu gwahodd i fatio’n gyntaf.
Dyma’r tro cyntaf i Rudolph daro canred yn ei yrfa T20, gan guro’i record flaenorol o 83 i’r Titans yng Nghynghrair y Pencampwyr yn 2012.
Adeiladodd Rudolph a’i gydwladwr Craig Meschede bartneriaeth o 78 – gan gynnwys 57 yn y cyfnod clatsio – i osod seiliau’r fuddugoliaeth i Forgannwg.
Roedd rhagor o glatsio i ddod hefyd, wrth i Rudolph a chydwladwr arall, Colin Ingram daro 60 mewn 6.4 o belawdau, ac fe gyrhaeddodd Rudolph ei ganred oddi ar belen olaf ond un y batiad.
Dechreuodd bowlwyr Morgannwg yn y ffordd orau bosib, wrth i Michael Hogan gipio wiced Chris Dent yn yr ail belawd.
Daeth ail wiced i Forgannwg wrth i Ian Cockbain fynd allan, a chyfanswm Swydd Gaerloyw’n 56-2.
Yr unig achubiaeth i Swydd Gaerloyw oedd batiad campus gan yr Awstraliad Michael Klinger (104*), a darodd ei drydedd canred mewn pedwar batiad oddi ar 63 o belenni.
Roedd Klinger wedi colli partner arall wrth i Peter Handscomb gael ei ddal oddi ar fowlio Andrew Salter, ac roedd y Saeson mewn dyfroedd dyfnion erbyn y drydedd pelawd ar ddeg.
Er i Klinger gyrraedd ei ganred yn y belawd olaf, y nod i Swydd Gaerloyw oddi ar chwe phelen oedd 27, ond roedd hi’n ormod iddyn nhw ac fe ddaeth y Cymry adref wedi sicrhau eu hail fuddugoliaeth mewn dwy ornest.