Chris Coleman, rheolwr Cymru (llun: PA)
Mae Cymru wedi cymryd cam mawr ymlaen at gymhwyso ar gyfer Pencampwriaethau Ewrop yr haf nesaf wedi buddugoliaeth syfrdanol yn erbyn Gwlad Belg yng Nghaerdydd neithiwr.

Wedi gôl gan Gareth Bale ar ôl 25 munud, llwyddodd Cymru i ddal Gwlad Belg yn ôl am weddill y gêm i sicrhau buddugoliaeth o 1-0, sy’n eu gosod dri phwynt yn glir ar frig Grŵp B gyda phedair gêm ar ôl.

“Dw i ddim am golli fy mhen oherwydd mae gennym 12 pwynt i chwarae amdanynt,” meddai’r rheolwr Chris Coleman.

“Ond rydym wedi cymryd cam mawr ymlaen ac fe allwn ni fwynhau edrych ar y tabl oherwydd ein bod ni ar y brig.

“Rydym wedi cymryd pedwar pwynt oddi ar Wlad Belg, felly nid ffliwc mohono, ac mae’n bleser o’r mwyaf cael curo tîm ffantastig fel y nhw.

“Hon oedd y fuddugoliaeth fwyaf yn fy ngyrfa fel rheolwr.

“Ond dw i’n credu bod buddugoliaeth fwy ar ddod a honno fydd yr un a fydd yn dweud ein bod ni’n mynd i Ffrainc.”