Mae’r gweithredu diwydiannol ynghylch cyflogau gan aelodau o undeb Unsain yn y Gwasanaeth Prawf wedi’i atal yn dilyn cytundeb rhwng y ddwy ochr i ailddechrau trafodaethau.
Mewn datganiad ar wefan Unsain dywedodd yr undeb: “Mae pwyllgor gwasanaeth prawf Unsain wedi cytuno i atal y streic heddiw, er mwyn caniatáu fod trafodaethau pellach yn parhau er mwyn datrys yr anghydfod cyflog 2014.”
Daw hyn yn dilyn trafodaethau gyda’r cyflogwyr yn swyddfeydd ACAS, sef gwasanaeth cymod a chyngor y Llywodraeth, ar Fehefin 5 a’r 8.
Yn ystod y trafodaethau hyn, fe gytunodd y Gwasanaeth Prawf i gais gan Unsain i ymestyn y cyfnod ble maent yn gallu galw am weithredu diwydiannol pellach er mwyn caniatáu i drafodaethau ar gyflogau ail-ddechrau.
Fe ddywedodd y datganiad: “Mae Unsain yn gobeithio y bydd ailddechrau’r trafodaethau dros gyflogau yn arwain at ganlyniad cadarnhaol. Bydd pwyllgor o’r Gwasanaeth Prawf yn UNSAIN yn cyfarfod i adolygu’r canlyniad i’r trafodaethau hyn a byddant yn gwneud penderfyniad ar y ffordd ymlaen. Os oes raid, bydd gweithredu diwydiannol yn cael ei ail-drefnu ar gyfer mis Gorffennaf.”