Aelodau o'r grwp Y Ffug
Bydd prif leisydd un o fandiau amlycaf Cymru heddiw’n galw ar fechgyn i siarad yn onest ac agored am anhwylderau bwyta er mwyn herio tabŵ cymdeithasol.
Bydd rhaglen arbennig o ‘Manylu’ ar Radio Cymru (dydd Iau, 12.30) yn trafod brwydr Iolo Selyf James o’r Ffug yn erbyn problemau iechyd meddwl, gan gynnwys anorecsia.
Mewn datganiad, dywedodd Iolo Selyf James: “Mae anorecsia yn salwch cryf ac mae lot o bobl ddim yn sylweddoli bod e’n effeithio ar ddynion fel mae e ar ferched.
“Rhaid cofio fod bechgyn ifanc yn gweld cymaint o ddelweddau idealistic sy ddim yn realistig o gwbl. Chi’n methu edrych fel ’na – yn hynod gyhyrog a thenau.
“Hefyd dyw bechgyn ddim yn gweld e mor hawdd â menywod i siarad am eu teimladau nhw.
“Lot o’r broblem yw pan mae gyda chi lot fawr o masculinity – er enghraifft, mewn lle fel Crymych, lle dwi’n byw – lle mae gyda chi rygbi a peints a stwff fel ’na.
“Mae e’n anodd siarad gyda rhywun achos bydde fe’n cael ei weld fel rhyw fath o ddiffyg.
“Mae pobl yn gallu bod yn touchy iawn am iechyd meddwl, lle does dim problem os yw rhywun wedi torri ei goes.”
‘Iselder’
Ychwanegodd fod ei frwydr yn erbyn anhwylder bwyta’n rhan o broblem iechyd meddwl ehangach am ddwy flynedd a hanner – ac roedd yn broblem oedd wedi ei arwain yn agos iawn at y dibyn.
“Gyda’r iselder o’n i’n teimlo lwmp o haearn yn fy mrest, ac o’n i jyst ddim am wneud dim byd, o’n i’n rili anhapus.
“Mae anorecsia i gyd ambyti plesio dy hunan – cael hunanreolaeth dros rywbeth yn dy fywyd.
“Rhywbeth sy’n eitha’ cyffredin gyda anorecsics ydy hoffi’r elfen yna o control.
“Mae e’n anodd iawn i ddisgrifio fe. O’n i’n cael teimladau oedd ddim yn rational – teimladau oedd yn dweud wrtha i bo’ fi angen marw, ac oedd angen sortio fe allan.”
Pen draw triniaeth Iolo Selyf James oedd cael tabledi gwrth-iselder at ei gyflwr, ac mae’n rhybuddio pobol ifanc yn yr un sefyllfa i geisio cymorth.
“Sdim angen cael cywilydd. Mae angen mynd i siarad gyda rhywun. Mae ishe cofio fod pobl yn deall.
“Mae angen i bobl ifanc fod yn ymwybodol o’u teimladau nhw eu hunain. Ac os y’n nhw yn ffindio’u hunain yn meddwl ac yn poeni am galorïau drwy’r dydd yna mae’n amser iddyn nhw gael help cyn iddo fe ddatblygu’n broblem, achos mae e’n gallu dinistrio bywydau.”
Manylu ar Radio Cymru, heddiw am 12.30yp.