Simon Thomas
Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Simon Thomas wedi amddiffyn ei fwriad i gynnig am le mewn etholaeth ac ar y rhestr ranbarthol yn etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Simon Thomas ei fod yn “yn gyfforddus” wrth geisio am enwebiad Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro yn ychwanegol at ei sedd bresennol tros ranbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Fe benderfynodd is-gadeirydd y Blaid, Nerys Evans, dynnu ei henw yn ôl o fod yn ymgeisydd yn yr etholaeth fis diwethaf am “resymau personol”.

Fe fydd Simon Thomas, llefarydd addysg y Blaid a chyn-AS Ceredigion, hefyd yn ymgeisio i fod ar dop rhestr y rhanbarth.

Yn dilyn newid yn y gyfraith, mae hawl gan Aelodau Cynulliad ymgeisio mewn seddi etholaethol a rhanbarthol.

“Os dw i’n cael fy newis, fy mwriad i yw aros ar y rhestr a sefyll yn yr etholaeth,” meddai Simon Thomas.

“Dw i’n meddwl bod hwn yn gwneud dau beth. Mae’n rhoi ffocws i’r ymgyrchu, mae hi wastad yn haws ymgyrchu mewn etholaeth.

“Hefyd, mae hi o fudd i bob un ohonom ni i weld y bleidlais ar y rhestr mor uchel ag sy’n bosib. Mae proffil uchel mewn etholaeth yn rhoi hwb i (rhywun) ar y rhestr hefyd.”

Fe fydd Plaid Cymru’n dewis ei hymgeisydd yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Penfro a’u hymgeiswyr yn y rhanbarthau cyn diwedd mis Gorffennaf.

Gellir darllen rhagor am y stori yn rhifyn yr wythnos hon o Golwg.