Tafwyl
Mae trefnwyr gŵyl Tafŵyl yng Nghastell Caerdydd wedi cyhoeddi eu bod am gynnal “yr ŵyl fwyaf gwyrdd erioed” eleni.

Gyda disgwyl y bydd dros 25,000 o bobol yn mynd i’r ŵyl ddeuddydd, sy’n dathlu ei phen-blwydd yn 10 oed, fe fydd popeth o’r platiau a’r cwpanau sy’n cael eu darparu gan stondinwyr bwyd yn ecogyfeillgar.

Fe fydd yr ŵyl yn cydweithio gyda chwmni rheoli gwastraff am y tro cyntaf erioed ac mae’r trefnwyr hyd yn oed wedi bod yn cael cyngor gan gwmnïau fel ‘A Greener Festival’, sy’n cynorthwyo digwyddiadau ar draws y byd i fabwysiadu arferion amgylcheddol da.

Pwysigrwydd

I’r ymwelwyr, bydd nifer o orsafoedd ailgylchu gwastraff ar gael o fewn muriau’r castell a bydd gweithdai amgylcheddol yn cael eu cynnal.

“Mae ein gweithdai yn dysgu am barch a chariad tuag at y byd naturiol ac yn annog plant i ail-ddefnyddio, ail-greu ac ail-gylchu,” meddai  Becca Clark o Green City Events.

“Rydym yn wirioneddol falch bod trefnwyr gŵyl Tafŵyl yn cydnabod pwysigrwydd hyrwyddo gweithgareddau cynaliadwy yn eu digwyddiad ac yn cynnwys gweithgareddau sy’n annog teuluoedd i gysylltu â natur ac ailddefnyddio eitemau y gallent ei daflu i ffwrdd”.

Gofynnir i bobol sy’n dod i’r ŵyl ar 4 a 5 Gorffennaf i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd yno.