Wayne Hennessey
Mae golwr Cymru Wayne Hennessey wedi cyfaddef ei bod hi’n bryd i’r genhedlaeth bresennol o chwaraewyr wireddu breuddwydion cenedl a chyrraedd twrnament rhyngwladol.
Mae Cymru’n ail yn eu grŵp rhagbrofol Ewro 2016 ar hyn o bryd, yn hafal gyda Gwlad Belg ar y brig o ran pwyntiau a dau bwynt yn well nag Israel sy’n drydydd.
Fe fyddai cyrraedd Pencampwriaethau Ewrop yn Ffrainc y flwyddyn nesaf yn golygu bod y tîm yn llwyddo i wneud rhywbeth dyw’r un genhedlaeth o chwaraewyr Cymru wedi’i gyflawni ers 1958.
Ac yn ôl golwr Crystal Palace, mae’r garfan bresennol yn teimlo bod yr amser hwnnw wedi dod.
“Ia dw i’n meddwl hynny, croesi bysedd,” meddai Wayne Hennessey.
“Mae gennym ni allu gwych yn y stafell newid, mae’r hogiau’n gyffrous i gwrdd fyny, mae’r staff wedi bod yn wych, a dw i’n meddwl mai dyma’n amser ni.”
Hawlio’r crys
Does dim dwywaith mai Hennessey yw dewis cyntaf Cymru yn y gôl ar hyn o bryd, ond dyw’r un peth ddim yn wir am ei sefyllfa yn Crystal Palace.
Mae’r golwr wedi bod yn eistedd ar y fainc i’w glwb am y rhan fwyaf o’r tymor, ac mae’n cyfaddef y gallai ei safle yn y tîm cenedlaethol fod o dan fygythiad os nad yw hynny’n newid.
“Nes i ddechrau’r ddwy gêm olaf i Palace, felly roedd hynny’n neis, ond fe fydd tymor nesaf yn bennod newydd,” meddai Wayne Hennessey.
“Bydd y rheolwr [Chris Coleman] eisiau i’w chwaraewyr e fod yn chwarae bob wythnos, felly gobeithio gallai wneud hynny tymor nesaf.”
Ac er ei fod yn 28 oed bellach, ac un o aelodau mwyaf profiadol carfan Cymru, mae’n dweud fod ganddo dal le i ddysgu a gwella o hyd.
“Hyd yn oed pan chi’n chwarae, fe wnewch chi wylio Match Of The Day wedyn, gweld beth mae golwyr eraill yn ei wneud, lle maen nhw’n gosod eu hunain, felly eich bod chi’n pigo pethau fyny,” meddai’r golwr o Fôn.