Osian Roberts
Mae hyfforddwr Cymru Osian Roberts wedi rhybuddio bod Gwlad Belg yn chwarae’r pêl-droed gorau maen nhw wedi’i wneud “ers peth cyfnod”, wrth iddyn nhw baratoi i herio Cymru nos Wener.

Bu Osian Roberts draw ym Mharis nos Sul gyda rheolwr Cymru Chris Coleman i wylio Gwlad Belg yn trechu Ffrainc 4-3 mewn gêm gyfeillgar.

A’r rhybudd wrth ddychwelyd oedd bod angen i Gareth Bale a gweddill y tîm gofio yn union pa mor dda all y tîm sydd yn ail yn netholiadau’r byd fod ar eu dydd.

“Dyna’r gorau dw i ‘di eu gweld nhw [Gwlad Belg] yn chwarae ers peth cyfnod,” meddai Osian Roberts wrth golwg360.

“Roedden nhw’n dda iawn i fynd allan i Ffrainc a sgorio pedair – fe allan nhw fod wedi sgorio saith neu wyth – ac ennill yn gyfforddus … mi fydd rhaid i ni fod ar ein gorau nos Wener.”

Mynnodd Osian Roberts fodd bynnag fod y “gwaith caled tu ôl i’r llenni” yng ngharfan Cymru yn dechrau talu ffrwyth bellach, a bod y tîm yn hyderus o allu “cael rhywbeth allan o’r gêm”.

Gallwch wrando ar y cyfweliad ag Osian Roberts yma: