Owain Jones
Fe fydd saer coed o Flaenau Ffestiniog ymysg tîm o Gymru sy’n teithio i São Paulo ym Mrasil yr haf hwn, a hynny i gymryd rhan mewn cystadleuaeth ryngwladol i brentisiaid.

Mae tua 1,000 o bobol ifanc 18-25 oed yn dod ynghyd i gystadlu ym mhencampwriaeth y WorldSkills.

Yn ogystal ag Owain Jones y saer coed 21 oed o Flaenau Ffestiniog, mae Cymru yn anfon prentis trin gwallt o’r enw Eleni Constantinou, 21, o Gaerffili, y technegydd Elijah Sumner, 20, o Fae Caerdydd a’r peiriannwr Luke Elsmore, 20, o’r Coed Duon, i gystadlu gyda goreuon y byd.

Fe gawson nhw eu dewis ar ôl wythnos o gystadlu –  a hynny yn dilyn 11 mis o hyfforddiant arbenigol.

“Mi fydd yna lot o waith caled yn ein disgwyl ym mis Awst, ond dw i’n edrych ymlaen yn fawr i fynd i São Paulo,” meddai Owain Jones.

“Mae’n rhaid i mi fod ar fy ngorau. Dw i wedi bod yn cystadlu ers cychwyn yn y coleg er mwyn cyrraedd y lefel yma a rŵan mi fydda i’n cystadlu ar lwyfan cenedlaethol.”