Yn dilyn llwyddiant Côr Glanaethwy ar raglen Britain’s Got Talent, mae’r arweinydd wedi dweud wrth gamerâu S4C nad oedd o’n siomedig o ddod yn drydydd.
Fe fydd Cefin Roberts a rhai o aelodau’r côr ar S4C nos Sadwrn yn son am y profiad a’r rheswm dros gystadlu ar y rhaglen canfod talent a ddenodd dros 13 miliwn o wylwyr.
Roedd y gefnogaeth i’r criw gan eu cydwladwyr yn “wych” yn ôl Cefin Roberts.
“Rydan ni wedi cael y fath gefnogaeth yma yng Nghymru sy’n cynhesu’ch calon. Mae wedi bod yn wych.
“Roedd yna 4,000 act wedi cystadlu felly rydan ni’n hapus iawn o ddod yn drydydd – yr act gerddorol ucha’ o ran safle.
“Doedd [dod yn drydydd] ddim yn siom o gwbl, fe fuom yn dathlu tan oriau mân y bore. Gawson ni ymateb positif bob tro gan y beirniaid – dim ond canmoliaeth gawson ni ganddyn nhw.”
Jules O’Dwyer a’i chi Matisse enillodd Britain’s Got Talent a’r consuriwr Jamie Raven ddaeth yn ail.
“Fel un sy’ wastad wedi dweud ‘dewch a variety nôl i deledu’ fedra i ddim cwyno,” meddai Cefin Roberts. “ …a dwi’n meddwl bod y ci yn brilliant.”
‘Rhywbeth gwahanol’
Mae Ysgol Glanaethwy, sydd a’i chartref ym Mharc Menai, Bangor, yn dathlu ei phen-blwydd yn 25 mlwydd oed eleni.
“Oherwydd hynny roedden ni’n edrych am rywbeth gwahanol i wneud ac roedden ni’n ymwybodol bod Britain’s Got Talent yn edrych am rywbeth gwahanol hefyd eleni,” eglura Cefin Roberts.
“Yn ogystal, roedd gennym ni falans da iawn o leisiau eleni. Mae cymryd rhan wedi codi ein proffil ond prif fwriad cystadlu oedd dal ati i roi profiadau amrywiol o berfformio i’r côr.”
Mae gan Glanaethwy Dalent! – heno am 9.35yh