Mewn seremoni fawreddog yn Galeri Caernarfon heno, fe gyhoeddwyd mai nofel Awst yn Anogia gan Gareth F. Williams, yw enillydd prif wobr Gymraeg Llyfr y Flwyddyn 2015.
Daeth yr awdur sy’n wreiddiol o Borthmadog i’r brig o’r naw llyfr Cymraeg oedd ar y rhestr fer, a rheiny’n gymysgedd o lyfrau Ffeithiol-Greadigol, ffuglen a chyfrolau barddoniaeth.
Mae Awst yn Anogia, a gyhoeddwyd gan Wasg Gwynedd, yn nofel sydd wedi’i seilio ar erchyllterau’r Ail Ryfel Byd ar ynys Creta, a’r digwyddiadau eithafol a newidiodd bentref Anogia am byth.
Dyma’r ail wobr i Gareth ei hennill mewn cwta wythnos gan iddo dderbyn Gwobr Tir na n-Og am y chweched tro brynhawn dydd Iau 28 Mai am ei nofel i bobl ifainc, Y Gêm (Gwasg Carreg Gwalch).
Aeth y brif wobr Saesneg Llyfr y Flwyddyn i Other People’s Countries gan Patrick McGuinness.
‘Epig hanesyddol’
Y gyfrol fuddugol yn y categori Barddoniaeth yw Un Stribedyn Bach gan Rhys Iorwerth ac enillydd y categori Ffeithiol Greadigol yw Llŷr Gwyn Lewis gyda Rhyw Flodau Rhyfel.
Beirniaid y llyfrau Cymraeg eleni oedd yr awdur Annes Glynn, y bardd a darlithydd Hywel Griffiths a’r DJ, awdur a pherfformiwr Gareth Potter.
Dywedodd Hywel Griffiths ar ran y panel: “Mae’r enillydd, Awst yn Anogia, yn eithriadol yn y modd y mae’n creu cymeriadau a lleoedd y mae’r darllenydd yn poeni amdanynt. Dyma epig hanesyddol lle mae effaith rhyfel yn dod yn fyw drwy fywydau pobl gyffredin.”
Mae enillydd pob categori yn derbyn gwobr o £2,000, ac fe gyflwynir gwobr ychwanegol o £6,000 i enillydd y brif wobr yn y ddwy iaith.