Mae Cyngor Môn wedi galw ar bobl yr ynys i ddod ynghyd i gefnogi’r ymgais i geisio dod a’r Eisteddfod Genedlaethol yno yn 2017.

Bydd cyfarfod cyhoeddus arbennig yn cael ei drefnu ar gyfer y trigolion lleol yn Ysgol Gyfun Llangefni am 6.30yh ar nos Iau 25 Mehefin i drafod y cynlluniau.

Ac mae’r cyngor eisoes wedi datgan eu bod yn awyddus i ddenu’r brifwyl i’r ardal, gan amcangyfrif y gallai fod werth rhwng £6-8miliwn i economi lleol Ynys Môn.

Ddoe fe gadarnhaodd Awdurdod yr Eisteddfod Genedlaethol eu bod nhw eisoes wedi dechrau trafod y posibiliad o leoli’r ŵyl yn ardal Bodedern ar yr ynys.

Denu 160,000

Tra’n dweud y gallai’r ŵyl ddenu tua 160,000 o ymwelwyr i’r ynys yn ystod yr wythnos, mae Cyngor Môn yn pwysleisio fodd bynnag fod angen i drigolion a chymunedau lleol fod yn barod i gynorthwyo gydag ymdrechion codi arian at gynnal y brifwyl.

“Yr Eisteddfod Genedlaethol yw gŵyl flaenaf Cymru a byddai ei chroesawu yn anrhydeddu mawr i Ynys Môn,” meddai Arweinydd y Cyngor Sir, Ieuan Williams.

“Byddai’r Eisteddfod Genedlaethol yn dod a nifer o fuddiannau diwylliannol, ieithyddol, cymdeithasol ac economaidd, ond byddai cynnal digwyddiad mor fawr hefyd angen cefnogaeth sylweddol.

“Wedi trafodaethau gyda swyddogion yr Eisteddfod Genedlaethol, rydym wedi cytuno i gynnal cyfarfod cyhoeddus i fesur y gefnogaeth er mwyn cynnal y digwyddiad yma.

“Mae gan ein hynys draddodiad hir o gefnogi Eisteddfodau ac rwy’n ffyddiog y cawn ni ymateb brwdfrydig a chefnogaeth dda gan ein cymunedau a chyrff gwirfoddol. Os ceir cefnogaeth ar y noson, yna fewn wnawn ni symud ymlaen i wahodd yr Eisteddfod Genedlaethol yma’n ffurfiol.”

Trafod grant

Yn ogystal â thrafod y prif ofynion o ran trefniadau a rheolaeth ar gyfer cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol, gan gynnwys gwybodaeth am y safle, mae disgwyl i’r cyfarfod cyhoeddus drafod ffynonellau grant posib.

Bydd targed ariannol ar gyfer y Gronfa Leol yn cael ei thrafod, ond fe fydd y rhan fwyaf o’r grant tuag at y costau o gynnal yr ŵyl yn dod drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Dim ond pedair gwaith y mae’r brifwyl erioed wedi ymweld ag Ynys Môn, gyda’r Eisteddfod yn ymweld â Llanbedrgoch yn 1999, Llangefni yn 1983 a 1957, a Chaergybi nôl yn 1927.

Ac mae Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol wedi awgrymu ei bod hi’n hen bryd iddi ddychwelyd i’r ynys unwaith eto.

“Byddai’n fraint i’r Eisteddfod Genedlaethol i gael dychwelyd i Sir Fôn ar ôl cyfnod o ddeunaw mlynedd ac yr ydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at gael trafod y posibiliadau gyda thrigolion yr Ynys yn cyfarfod cyhoeddus yn Llangefni yn ddiweddarach y mis hwn,” meddai Elfed Roberts.