Mae elusen plant yr NSPCC wedi beirniadu fideo “ofnadwy” ar Facebook sydd yn dangos babi yn cael ei drochi mewn bwced o ddŵr.

Mynnodd yr elusen fod yn rhaid i’r wefan gymdeithasol fod yn gyfrifol am y cynnwys y mae’n ei ganiatáu, ac maen nhw eisoes wedi ysgrifennu at y llywodraeth i gwyno.

Yn ôl Prif Weithredwr yr NSPCC, Peter Wanless, mae gwefannau cymdeithasol wedi bod yn “araf tu hwnt” wrth ddelio â chynnwys anaddas sydd yn cael ei lwytho gan ddefnyddwyr.

Ond mae Facebook wedi amddiffyn y penderfyniad i ganiatáu i’r clip aros ar dudalennau ei gwefan, er eu bod yn cydnabod fod y fideo yn un “annymunol”.

Nifer yn cwyno

Mae’r NSPCC wedi dweud eu bod yn “bryderus iawn” am y fideo diweddaraf i ddod i’w sylw, sydd yn dangos “babi ofnus yn crio ac yn cael ei drochi drosodd a throsodd mewn bwced o ddŵr” gan oedolyn.

Yn ôl Prif Weithredwr yr elusen maen nhw wedi derbyn nifer o gwynion dros yr wythnosau diwethaf ynglŷn â chynnwys anaddas ar y wefan gymdeithasol, ac mae wedi ysgrifennu at y gweinidogion Joanna Shields ac Ed Vaizey i godi’r mater.

“Rydym ni’n bryderus tu hwnt am ddiogelwch y plentyn yma ac yn annog Facebook helpu’r awdurdodau ym mhob ffordd posib er mwyn ceisio dod o hyd i’r unigolyn didrugaredd yma ac amddiffyn y babi,” meddai Peter Wanless.

“Tra bod diogelwch y plentyn yma yn brif flaenoriaeth, fe fyddwn ni hefyd yn eich annog i edrych ar yr holl opsiynau fydd yn sicrhau bod dinasyddion Ynysoedd Prydain, gan gynnwys miliynau o blant, ddim bellach yn gorfod gweld y math yma o gynnwys ofnadwy ac annymunol.”

Ychwanegodd bod angen i wefannau cymdeithasol “gael eu dwyn i gyfrif am y cynnwys ar eu gwefannau a thalu mwy o sylw i ddyletswyddau diogelwch”.

Heb ei dynnu lawr

Dyw Facebook heb wahardd y fideo er gwaetha’r feirniadaeth, fodd bynnag, dim ond rhoi rhybudd yn dweud na ddylai pobl wylio’r clip os nad ydyn nhw eisiau gwneud.

Fe fyddai’r clip yn cael ei ddileu, yn ôl Facebook, petae rhywun yn ei rannu a chlodfori’r cynnwys, ac fe gyfaddefodd cyfarwyddwr polisi’r wefan fod y mater yn un “anodd”.

“Ein barn ni yw pan mae’r mater yma’n cael ei rannu er mwyn tynnu sylw ato a chondemnio beth sy’n digwydd, yn ddelfrydol er mwyn helpu’r plentyn ac achub y plentyn, wedyn ie, mae lle iddo ar Facebook,” meddai Simon Milner wrth BBC Radio 4.

“Petai’n cael ei rannu er mwyn i bobl roi clod iddo neu wneud hwyl am ei ben, yn sicr ddim, fe fyddwn i’n ei dynnu lawr.

“Ein hymateb ni yw ie, dyw e ddim yn torri’n telerau ni, ond mae’n fideo annymunol a phoenus … ac felly mae’n iawn ein bod ni’n rhoi rhybudd arno.”