Pinewood Studios Cymru
Mae un o brif asiantaethau castio ecstras y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi y byddan nhw’n symud eu swyddfeydd Cymreig o Fae Caerdydd draw i Pinewood Studios Cymru.
Ers symud i’w lleoliad presennol yn 2013 mae Mad Dog Casting wedi darparu gwaith i dros 2,000 o artistiaid yn y maes actio, gan benodi ecstras ar gyfer nifer o gynyrchiadau sydd wedi cael eu ffilmio yng Nghymru a de orllewin Lloegr.
Mae’r rhaglenni mwyaf poblogaidd yn cynnwys drama dditectif mawr S4C, Y Gwyll/Hinterland, yn ogystal â Wolf Hall, Sherlock, Pride, Broadchurch, Da Vinci’s Demons ac Atlantis.
‘Canolfan greadigol newydd’
Cafodd Pinewood Studio Cymru ei agor ar gyrion y brifddinas ar ddechrau’r flwyddyn, ac yn ôl amcangyfrifon fe allai’r stiwdios ennyn £90miliwn o wariant gyda busnesau yng Nghymru.
Mae stiwdio Pinewood yn Llundain yn adnabyddus fel cartref i fasnachfraint James Bond, yn ogystal â ffilmiau Carry On a channoedd o ffilmiau adnabyddus eraill.
Fe fydd Mad Dog Casting yn symud i’r safle newydd ym mis Mehefin, ochr yn ochr â chwmnïau eraill fel Real SFX a Marigold Costumes, ac mae’r asiantaeth gastio yn awyddus i fod yn rhan o’r bwrlwm creadigol diweddar yng Nghymru.
“Wrth i ni weld mwy a mwy o gynyrchiadau yn dod i Gymru mae’n wych gweld cwmni mor ddylanwadol â Pinewood yn agor stiwdios yma, ac rydym wrth ein bodd i gael swyddfa yng nghanol bwrlwm y ganolfan greadigol newydd,” meddai Vicki Sutton, Pennaeth Castio swyddfa Gymreig Mad Dog Casting.