Milwyr yn ymarfer ar Fannau Brycheiniog
Roedd yn rhaid i filwr oedd wedi gorboethi mewn gwres tanbaid barhau hefo taith 16 milltir yn y Bannau Brycheiniog, er bod meddyg wedi ei gynghori i beidio mynd ymhellach.
Wrth roi tystiolaeth mewn cwest i farwolaeth tri milwr arall, dywedodd y milwr ei fod yn dioddef o ddryswch a phendro, cyn i uwch swyddogion ddweud wrtho am barhau gyda’r daith.
Roedd y milwyr yn cymryd rhan mewn ymarfer i ddewis milwyr ar gyfer yr SAS ger mynydd Pen y Fan, ym Mannau Brycheiniog.
“Fe wnaeth y meddyg fy nhynnu nôl o’r ymarfer. Dywedodd wrtha i, ‘dwyt ti ddim eisiau marw’.
“Ond wedyn gofynnwyd i mi os faswn i’n medru parhau a’r daith. Dywedodd y meddyg y baswn i, mae’n debyg, yn medru ond na fyddwn i’n gorffen mewn pryd. Ond ges i gyfarwyddyd i ddal ati.”
Cefndir
Mae’r cwest yn edrych ar amgylchiadau marwolaeth James Dunsby, 31, Edward Maher, 31, a Craig Roberts, 24, yn dilyn sesiwn hyfforddi ar fynydd Pen-y-fan ym mis Gorffennaf 2013.
Roedd y sesiwn yn cynnwys taith gerdded mewn tymheredd o bron i 30 gradd selsiws.
Clywodd gwrandawiad gwreiddiol i farwolaeth y tri bod Craig Roberts ac Edward Maher wedi marw ar ôl gorboethi, tra bod James Dunsby wedi marw oherwydd bod ei organau wedi methu.
Mae’r cwest yn parhau.