Nigel Mansell
Mae’r gyrrwr Fformiwla 1 Nigel Mansell wedi buddsoddi mewn bwyty a bar newydd mewn parc carafanau yng Ngwynedd.
Fe wnaeth Nigel Mansell ymweld â pharc Islawrffordd yn Nhalybont ger Y Bermo am y tro cyntaf yn bedair oed. Ac mae disgwyl iddo agor y bwyty newydd sydd wedi’i alw’n Nineteen57 – sef y dyddiad agorodd y parc – yn ddiweddarach yn y mis.
Mae ei fuddsoddiad yn golygu y bydd 20 o bobol yn cael eu cyflogi ar y safle yn llawn a rhan amser.
“Mae’r bwyty newydd gwerth £700,000, fydd ar agor drwy gydol y flwyddyn, hefyd wedi creu gwaith i grefftwyr lleol dros y gaeaf ac rydym yn falch iawn bod trigolion yr ardal yn defnyddio’r cyfleusterau,” meddai rheolwr busnes y parc John Billingham.
Mae gan Nigel Mansell garafán ar safle Islawrffordd ac mae’n ffrindiau teuluol gyda’r perchnogion Gwynfor Evans a’i feibion Dylan a Geraint.