Mae gyrwyr yng Nghymru ymysg y mwyaf diogel a chywir yn y DU am barcio, yn ôl arolwg newydd a gynhaliwyd gan Nissan.

Gofynnodd y cwmni moduro i 9,177 o yrwyr yn yr Eidal, Sbaen, yr Almaen, Ffrainc a’r DU i adolygu eu perfformiad parcio dros y pum mlynedd diwethaf ac i gyfaddef unrhyw ddamweiniau oedden nhw wedi eu cael.

Dangosodd y canlyniadau mai gyrwyr yng Nghymru wnaeth gofnodi’r nifer lleiaf o ddamweiniau bychan a mawr tra’n parcio, gyda dim ond 1% o’r ymatebwyr yn cyfaddef eu bod wedi cael damwain wrth barcio.

Ar y llaw arall, gyrwyr yr Alban yw’r gwaetha yn y DU, gyda 6% ohonynt yn cyfaddef cael damwain parcio yn y pum mlynedd diwethaf.

Technoleg parcio

Er bod gyrwyr yng Nghymru ar frig safleoedd y DU ar gyfer perffeithrwydd parcio, mae modurwyr y DU wedi cael eu datgelu fel y rhai sydd lleiaf tebygol o gael damwain yn Ewrop.

Roedd gyrwyr yn yr Eidal, Sbaen, yr Almaen a Ffrainc i gyd yn dweud eu bod wedi cael mwy o ddamweiniau na gyrwyr yn y DU yn y pum mlynedd diwethaf.

Gyrwyr Eidalaidd oedd y rhai mwyaf tebygol i gael damwain gydag un o bob dau yn cyfaddef eu bod yn achosi difrod i’w ceir dros yr un cyfnod – gyda 26% ohonynt yn gwneud hynny wrth geisio parcio.

Roedd Nissan wedi comisiynu’r ymchwil i hybu technoleg parcio sydd yn eu ceir newydd.