Neuadd Pantycelyn
Fe fydd myfyrwyr ac ymgyrchwyr sy’n galw am achub Neuadd Pantycelyn yn cynnal rali y tu allan i’r adeilad yr wythnos nesa.

Mae’n dilyn protestio yn Aberystwyth ac ar faes Eisteddfod yr Urdd wythnos diwethaf wedi i un o bwyllgorau’r Brifysgol argymell cau’r adeilad fel neuadd breswyl, heb gynlluniau pendant i’w ail agor.

Cafodd y myfyrwyr wybod ar 21 Mai bod posibilrwydd na fydd ganddyn nhw lety’r flwyddyn academaidd nesa –  a hynny ar ôl ymgyrch hir i achub y neuadd Gymraeg ychydig dros flwyddyn yn ôl.

Barn y brifysgol yw nad yw cyflwr yr adeilad yn ddigon safonol a bod angen ei ailwampio’n llwyr, gan gynnwys ei ail-wifro ac ymdrin â materion diogelwch tân.

Ond mae’r myfyrwyr yn galw am sicrwydd y bydd y neuadd yn ail-agor ac amserlen o’r gwaith.

Llywydd Undeb Myfyrwyr Aberystwyth, Jacob Ellis, yn siarad yn ystod y brotest ar faes Eisteddfod yr Urdd:

A chyfweliad llawn golwg360 gyda Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Rhodri Llwyd Morgan, yr wythnos diwethaf:

‘Datrys ar frys’

Dywedodd Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymru Beth Button: “Mae UMC Cymru’n poeni’n fawr am y diffyg sicrwydd ynghylch dyfodol llety cyfrwng-Cymraeg yn Aberystwyth ac rydym yn gobeithio y caiff y mater ei ddatrys ar frys.

“Mae’n hen bryd buddsoddi ym Mhantycelyn. Rydym am weithio gyda’r brifysgol, Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, ac UMCA i sicrhau y caiff amserlen glir ei rhoi ar waith fel bod llety cyfrwng Cymraeg o’r ansawdd gorau’n parhau yn Aberystwyth.

“Ers degawdau, mae Pantycelyn wedi bod yn gonglfaen i ddiwylliant Cymraeg Aberystwyth ac wedi rhoi cyfle i genedlaethau o fyfyrwyr i ddatblygu ymdeimlad cymunedol wedi ei rannu. Byddai’n annerbyniol pe bai llety cyfrwng-Cymraeg ym Mhantycelyn yn dod i ben heb fod trefniadau cymaradwy mewn lle.

“Os ydym am fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu’r Gymraeg, mae’n rhaid diogelu llefydd fel Pantycelyn.”

Bydd y rali yn cael ei chynnal ddydd Mercher nesaf, 10 Mehefin am 10yb tu allan i brif fynedfa’r adeilad.