Carwyn Jones
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi ymuno yn y galwadau i ohirio’r etholiad yfory i ddewis llywydd newydd Fifa.
Daw’r galwadau ar ôl i nifer o uwch swyddogion Fifa, gan gynnwys dau is-lywydd, gael eu harestio yn Zurich ddoe ar amheuaeth o dwyll, llygredd a derbyn llwgrwobrwyon yn dilyn ymchwiliad gan yr FBI.
Mae pwysau ar y llywydd Sepp Blatter i ymddiswyddo ac mae Uefa wedi galw ar Fifa i ohirio’r bleidlais yn Zurich yfory.
Ond mae Sepp Blatter wedi gwrthod apel gan bennaeth Uefa, Michel Platini, arno i ymddiswyddo ac mae’n gobeithio cael ei ail-ethol yfory am bumed tymor.
Dywedodd Carwyn Jones: “Mae’n anhygoel bod pleidlais Fifa i ddewis y llywydd nesaf yn mynd yn ei blaen.
“Dyma sefydliad sydd wedi cael ei maeddu gan sgandal a llygredd, ac eto mae’r rhai ar y brig fel petai nhw’n gwrthwynebu hynny’n llwyr.
“Rwy’n cefnogi penderfyniad Cymdeithas Bêl-droed Cymru i bleidleisio o blaid newid a diwygiad.
“Mae angen tryloywder ar y brig ym myd pêl-droed, a dechrau newydd yn y ffordd mae’r gêm yn cael ei llywodraethu ar lefel ryngwladol.”
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi dweud y bydd yn cefnogi’r Tywysog Ali bin al-Hussein i fod yn llywydd nesaf Fifa – y tywysog o Wlad yr Iorddonen yw’r unig un sy’n herio Blatter, 79, am arlywyddiaeth y corff.
Mae nifer o noddwyr Fifa, gan gynnwys Visa, wedi dweud eu bod yn ail-ystyried eu cytundebau gyda’r corff pêl-droed rhyngwladol. Mae noddwyr eraill fel McDonald’s, Budweiser, Coca-Cola, Adidas, a Hyundai hefyd wedi mynegi pryderon.
Yn y cyfamser, mae erlynwyr yn Y Swistir wedi cychwyn ymchwiliad newydd i ymddygiad rhai o swyddogion Fifa yn ymwneud â’r broses geisiadau i gynnal Cwpan y Byd yn 2018 a 2022.