Gallai caniatáu i bobl ifanc 16 a 17 oed i bleidleisio yn y refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd helpu i adfywio democratiaeth, meddai’r Blaid Lafur.
Mae’r Blaid wedi penderfynu peidio gwrthwynebu cynlluniau ar gyfer refferendwm ond maen nhw’n galw ar y Llywodraeth i ostwng yr oedran pleidleisio.
Cafodd y Bil ar Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd ei gyflwyno i Dŷ’r Cyffredin heddiw, gyda chynlluniau i gynnal pleidlais erbyn diwedd 2017.
Awgrymwyd y byddai’r Blaid Lafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn barod i gydweithio i gynnig gwelliannau i’r mesur a fyddai’n cynnwys agor y bleidlais i bobl 16 a 17 mlwydd oed.
‘Haeddu llais cryfach’
Yn ystod y ddadl i drafod Araith y Frenhines, dywedodd llefarydd y Blaid Lafur, yr Arglwydd Collins o Highbury: “Fe fyddwn yn pleidleisio o blaid y Bil ond yr ydym yn credu fod pobl ifanc yn haeddu llais cryfach mewn cymdeithas ac mi fydd y refferendwm yn rhoi’r cyfle hynny.
“Fe welsom y llynedd sut yr oedd pobl ifanc yn yr Alban yn cymryd rhan yn y refferendwm dros Annibyniaeth, a oedd wedi ailgynnau’r diddordeb mewn gwleidyddiaeth.”
Ychwanegodd: “Dwi’n gobeithio y gall y Llywodraeth ddysgu o’r profiad hwnnw, gan gynnig y cyfle i bobl ifanc 16 a 17 mlwydd oed benderfynu os yw’r wlad yn aros yn yr Undeb Ewropeaidd.”