Tim Rhys Evans (Llun: Iolo Cheung)
Mae angen Eisteddfod yr Urdd “yn fwy nag erioed” yn wyneb toriadau sy’n cael eu gwneud i wasanaethau cerdd ar hyn o bryd, yn ôl y cerddor a’r arweinydd corawl Tim Rhys Evans.

Roedd yn siarad fel Llywydd y Dydd cyntaf Eistedded yr Urdd Caerffili a’r Cylch, ar ôl bod yn arwain y cyngerdd agoriadol yn y Pafiliwn neithiwr.

Dywedodd ei fod yn “andros o falch” bod yr Eisteddfod wedi dod i ardal Saesneg ei hiaith eleni, gan obeithio bod cyfle i blannu hedyn Cymraeg ym Mro Caerffili a’i thrigolion.

“I rywun fel fi sydd wedi dechrau dysgu Cymraeg yn ddiweddar, rwy’n teimlo’n freintiedig iawn i fod yn Llywydd y Dydd,” meddai wrth annerch cynhadledd i’r wasg.

Tim Rhys Evans yn croesawu’r eisteddfod i Gaerffili eleni:

Taflu cerrig at blant Cymraeg

Pan oedd yn ifanc, meddai, ei unig brofiad o’r iaith Gymraeg oedd cael row am daflu cerrig ar blant yr Ysgol Cwm Rhymni:

“Es i i ysgol Bedywellty a dw i’n cofio’r hen brifathro yn sefyll ar y llwyfan ac yn dweud “ry’ chdi wedi bod wrthi eto – ry’ chi wedi bod yn taflu cerrig ar y plant Cymraeg.

“A dyna oedd fy mhrofiad i o’r iaith Gymraeg pan oeddwn i’n tyfu lan – rhywbeth oedd yn digwydd drws nesa’.

“Dw i nawr yn ymwybodol bod yna gyfleoedd anhygoel i bobol ifanc trwy Eisteddfod yr Urdd ac fe roedd neithiwr yn profi hynny.”

Toriadau

Ychwanegodd bod angen gwneud yn siwr bod pob plentyn yn cael cynnig gwersi cerdd, fel y cafodd yntau yn ei ddyddiau ysgol.

“Mae’n hanfodol bwysig i gofio bod Cymru gyfan yn wynebu toriadau mawr i wasanaethau cerddoriaeth.

“O’ni’n lwcus iawn pan oeddwn i’n ifanc i dderbyn cyfleoedd anhygoel drwy’r gwasanaethau hynny, fel Corau Ieuenctid Canol Morgannwg. Mae’n rhaid gwneud yn siŵr bod pawb yn cael y cyfleoedd hynny, pa bynnag gefndir neu ardal.

“Yn y cyfnod anodd yma, rydan ni angen Eisteddfod yr Urdd yn fwy nag erioed.

“Dyna’r rheswm dw i’n andros o falch bod Eisteddfod yr Urdd wedi dod i ardal Saesneg ei hiaith. Mae’n gyfle i, falle, blannu hadyn bach newydd ym Mro Caerffili i ddatblygu’r Gymraeg.”