Lowri Jones
Lowri Jones, merch 35 oed o Langrannog, sydd wedi ei phenodi yn Gyfarwyddwr newydd ar wersyll yr Urdd yn y pentre’.
Fe fydd yn cymryd yr awenau oddi wrth y Cyfarwyddwr Steffan Jenkins, fu yn y swydd am 20 mlynedd, ar 1 Awst. Mae Lowri Jones wedi bod yn Ddirprwy Gyfarwyddwr yn y Gwersyll ers naw mlynedd.
Ei gweledigaeth dros y blynyddoedd nesa’, meddai, yw parhau â gwaith Steffan Jenkins er mwyn sicrhau “dyfodol hir dymor” i’r gwersyll.
Merch leol
“Fel merch sy’n lleol i Langrannog, alla’ i ddweud yn onest ei bod hi’n fraint ac yn anrhydedd i sefyll fan hyn fel darpar gyfarwyddwraig Gwersyll Llangrannog.
“Rwyf hefyd yn gwerthfawrogi’r rôl mae’r gwersyll yn chwarae yn economaidd ac yn ddiwylliannol, a hynny yn genedlaethol.
“Mae hefyd yn hwb economaidd allweddol i orllewin Cymru gyda 120 o staff ar hyn o bryd a throsiant o dros £2.5 miliwn.
“Llynedd oedd y flwyddyn orau erioed, gyda dros 20,000 o blant ac ieuenctid yn cael eu croesawu i’r gwersyll ac fe roedd 96% o athrawon yn gadael y gwersyll yn teimlo bod agwedd eu disgyblion tuag at yr iaith a’r diwylliant wedi gwella – ac mae hynny’n ddweud mawr.
“Fy ngweledigaeth i dros y blynyddoedd nesa yw parhau i ddatblygu, cynnal a chodi safonau i sicrhau llwyddiant hir dymor i’r gwersyll.