Mae soldiwr o Tiwnisia a ymosododd ar ei gyd-filwyr, wedi lladd ei hun, yn ôl llefarydd ar ran Gweinyddaeth Amddiffyn y wlad.
Roedd y milwr wedi’i wahardd rhag cario arfau, ond roedd wedi llwyddo i ddwyn gwn milwr arall cyn mynd yn ei flaen i anafu wyth o bobol. Mae’r rheiny wedi’u cludo i ysbyty milwrol.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiadau ym marics Bouchoucha, tua chilomedr o Amgueddfa Genedlaethol Bardo, lle cafodd 22 o bobol – y rhan fwya’ ohonyn nhw’n dwristiaid – eu lladd mewn ymosodiad terfysgol ar Fawrth 18 eleni.
Dydi’r digwyddiadau yn y barics heddiw ddim yn cael eu gweld fel ymosodiadau terfysgol. Ond oddi ar cael gwared â’r llywodraeth unbeniaethol yn 2011, mae Tiwnisia wedi bod yn brwydro i gadw trefn ar grwpiau gwrthryfelgar sydd â chysylltiadau ag IS ac al-Qaida.