Mae disgwyl i 15,000 o gystadleuwyr a hyd at 90,000 o ymwelwyr dyrru i Lancaiach ar gyfer wythnos o gystadlu, digwyddiadau gyda’r nos a gweithgareddau hwyliog y Maes, wrth i Eisteddfod yr Urdd 2015 agor ei drysau.
Neithiwr, yn y cyngerdd agoriadol, roedd Alex Jones ac arweinydd Only Men Aloud, Tim Rhys-Evans yn cyflwyno sêr lleol, o’r cyflwynydd a’r canwr Matt Johsnon i Only Boys Aloud a Band Tredegar.
Yn ystod yr wythnos, bydd dros gant o ddisgyblion ysgol yr ardal yn cymryd rhan mewn dwy sioe gyda’r nos. ‘Y Dyn Na Fu Erioed’ yw’r sioe gynradd, sy’n cael ei llwyfannu yn y pafiliwn nos Fawrth, 26 Mai, gyda’r sioe ieuenctid, ‘Chwarae Cuddio’, nos Lun , 25 Mai yn Sefydliad y Glowyr Coed Duon.
Cystadlaethau newydd
Mewn ardal goginio bwrpasol ar y Maes, bydd Beca Lyne-Pirkis, un o sêr y Great British Bake Off, yn beirniadu ffeinals cystadleuaeth coginio’r Urdd, CogUrdd – un o’r cystadlaethau newydd, mwy galwedigaethol eu naws, a fydd yn cael eu cyflwyno am y tro cynta’ eleni.
Mae sawl cystadleuaeth galwedigaethol newydd wedi’i gyflwyno eleni, mewn partneriaeth â Cholegau Cymru. Yn y gystadleuaeth Trin Gwallt a Harddwch y sialens fydd creu delwedd gyflawn ar thema benodol – naill ai Gyda’r nos/Parti, Ffantasi neu Briodas.
Bydd enillwyr y cystadlaethau Gofal Plant a Ffasiwn hefyd yn cael eu cyhoeddi yn ystod yr wythnos.
Brwdfrydedd
“Ry’n ni bellach yn edrych ymlaen yn eiddgar at fwynhau’r holl gystadlu a gweithgareddau ac at groesawu ymwelwyr o bob cwr o Gymru i’n milltir sgwâr ninnau,” meddai Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd Caerffili a’r Cylch, Sara Davies.
“Byddwn yn hoffi diolch hefyd i’r bobl hynny sydd wedi gweithio mor galed i ddod â’r digwyddiad mawr hwn i’r ardal, a dwi’n siŵr y bydd gwaddol Eisteddfod yr Urdd yn cael effaith gadarnhaol a hir dymor ar yr ardal hon am flynyddoedd i ddod.”