Mae nifer o arbenigwyr ym meysydd iaith ac addysg wedi mynegi eu cefnogaeth i’r alwad am i’r cwricwlwm newydd yn ysgolion Cymru roi i bob disgybl y gallu i gyfathrebu a gweithio yn Gymraeg.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn mynnu y dylai Llywodraeth Cymru “ddal ar y cyfle i ddatblygu cwricwlwm newydd a fydd yn sicrhau fod pob disgybl yn datblygu’r sgil addysgol hanfodol o fedru cyfathrebu a gweithio yn Gymraeg yn ogystal ag yn Saesneg.”
Ymysg ei chefnogwyr ar y mater hwn y mae:
* David Crystal, Athro mewn Ieitheg ym Mhrifysgol Bangor ac awdur y Cambridge Encyclopedia of Language;
* Gethin Lewis, cyn-brifathro a chyn-Ysgrifennydd Cenedlaethol undeb athrawon, N.U.T. Cymru;
* Athro Christine James, Archdderwydd Cymru.
Disgwylir cyhoeddiad gan y llywodraeth y mis nesaf yn dilyn cyhoeddi Adroddiad Donaldson, ond mae’r Gymdeithas wedi disgrifio’r cwricwlwm presennol fel “Welsh Not yr 21ain ganrif” gan nad yw gwersi Cymraeg Ail Iaith yn cynhyrchu siaradwyr Cymraeg.
“Dyw hi ddim yn deg fod mwyafrif mawr disgyblion ardal fel Caerffili, bro Eisteddfod yr Urdd, yn cael eu hamddifadu o’r gallu i weithio a chyfathrebu’n Gymraeg,” meddai Ffred Ffransis, llefarydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar addysg.
“Methiant yw’r syniad dilornus o Gymraeg ail iaith, a dylai’r llywodraeth gyhoeddi newid cyfeiriad fel bod pob disgybl yn dysgu Cymraeg fel ei iaith ei hun a derbyn o leiaf beth o’i addysg yn Gymraeg.
“Does dim rhaid i’r llywodraeth wrando arnon ni. Dylen nhw wrando ar gasgliad y pwyllgor a gomisiynwyd ganddyn nhw eu hunain a ddaeth i’r un casgliad a ni, ac mae hyd yn oed Carwyn Jones wedi cyhoeddi mai methiant yw Cymraeg Ail Iaith.
“Wrth gwrs y bydd newid yn y cwricwlwm yn cymryd amser i’w gyflawni. Dylai’r llywodraeth ddatgan y nod a’r cyfeiriad newydd y mis nesaf a sefydlu gweithgor proffesiynol i fonitro’n flynyddol cynnydd tuag at y nod.”