Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth yn dilyn lladrad ac ymosodiad ar ddynes mewn stryd yn Nhonypandy y bore ma.

Ymosododd dyn ar ddynes am 3.10yb, gan ddwyn bag oedd yn cynnwys arian a ffôn symudol Samsung galaxy.

Gadawodd y dyn y stryd wedi’r digwyddiad, gan redeg i gyfeiriad Heol Trealaw y dref.

Mae’r dyn sy’n cael ei amau’n 5’5″, yn ei ugeiniau cynnar, yn denau a chanddo wallt byr a thywyll. Roedd yn gwisgo top llwyd a throwsus tywyll.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.