Mae byddin Syria yn paratoi i adennill dinas hanesyddol Palmyra a gafodd ei chipio gan y Wladwriaeth Islamaidd.
Dywedodd llywodraethwr talaith Homs, Talal Barazi fod y Wladwriaeth Islamaidd wedi “cyflawni cyflafan yn ninas Palmyra” ers dydd Mercher.
Maen nhw wedi cipio trigolion ac wedi eu cludo i leoedd anhysbys.
Dydy hi ddim yn glir eto pryd y bydd ymdrechion milwrol byddin Syria yn cychwyn.