Mae Eisteddfod yr Urdd wedi dechrau yng Nghaerffili heddiw gydag Oedfa yn y Pafiliwn.

Yn arwain yr Oedfa mae disgyblion Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, ac mae’n cynnwys cyfraniadau gan y Gweinidogion R. Alun Evans, Milton Jenkins a Denzil John.

Am 8.30 heno, fe fydd cyngerdd agoriadol yr Eisteddfod yn cael ei chynnal dan ofal Alex Jones a Tim Rhys-Evans.

Ymhlith y perfformwyr mae Matt Johnson, Only Boys Aloud, Kizzy Crawford, Phylip Harries, Adran Bro Taf, Band Pres Tredegar, a chast y Sioe Gynradd a’r Sioe Uwchradd.

Bydd yr Eisteddfod yn agor ei drysau ddydd Llun 25 Mai ar safle Llancaiach Fawr, Nelson.

Mae disgwyl i 15,000 o gystadleuwyr a hyd at 90,000 o ymwelwyr dyrru i Lancaiach ar gyfer wythnos o gystadlu, digwyddiadau gyda’r nos a gweithgareddau hwyliog y Maes.

Yn ystod yr wythnos, bydd dros gant o ddisgyblion ysgol yr ardal yn cymryd rhan mewn dwy sioe gyda’r nos.  ‘Y Dyn Na Fu Erioed’ yw’r sioe gynradd, sy’n cael ei llwyfannu yn y pafiliwn nos Fawrth, 26 Mai, gyda’r sioe ieuenctid, ‘Chwarae Cuddio’, nos Lun, 25 Mai yn Sefydliad y Glowyr Coed Duon.

Yn ogystal â phrif seremonïau’r wythnos, y cadeirio a’r coroni, a’r cystadlaethau amrywiol sy’n cael eu cynnal yn y pafiliwn, bydd digon i wneud a mwynhau ar y Maes.

Yn y Gwyddonle, pabell sy’n llawn datblygiadau diweddara’r byd technegol a gwyddonol, bydd ardal gemau a chyfle i greu maes eisteddfod delfrydol gyda’r rhaglen Minecraft.

Mewn ardal goginio bwrpasol ar y Maes, bydd Beca Lyne-Pirkis, un o sêr y Great British Bake Off, yn beirniadu ffeinals cystadleuaeth coginio’r Urdd, CogUrdd.

Bydd cyfle i roi tro ar y wal ddringo, cymryd rhan mewn gwahanol sesiynau chwaraeon neu fwynhau cyffro’r ffair.  Bydd bandiau byw, sioeau plant ac ardal fwyd hefyd.

Mae sawl cystadleuaeth galwedigaethol newydd wedi’i gyflwyno eleni, mewn partneriaeth â Cholegau Cymru.

Yn y gystadleuaeth Trin Gwallt a Harddwch y sialens fydd creu delwedd gyflawn ar thema benodol – naillai Gyda’r nos/Parti, Ffantasi neu Briodas.  Bydd enillwyr y cystadlaethau Gofal Plant a Ffasiwn hefyd yn cael eu cyhoeddi yn ystod yr wythnos.

Mae modd lawrlwytho ap Eisteddfod yr Urdd dwyieithog sy’n cynnwys map, rhestr o’r cystadlaethau, manylion trafnidiaeth a gwybodaeth arall yn rhad ac am ddim.

Dywedodd Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, Aled Siôn: “Mae’r ymateb yn lleol i’r Eisteddfod wedi bod yn wych ac ry’n ni’n falch dros ben yn y cynnydd mawr yn nifer yr aelodau o ranbarth Gwent eleni, sef 5,721 o aelodau, bron i 2000 yn fwy nag arfer.

“Fe fydd hi’n ŵyl i’w chofio, yn sicr, gyda chystadlaethau cyffrous newydd yn ogystal â’r prif seremonïau, y cyngerdd agoriadol a’r sioeau gyda’r nos, heb anghofio’r Maes a lleoliad gwych Llancaiach Fawr.”

Ychwanegodd Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd Caerffili a’r Cylch, Sara Davies: “Hoffwn ddiolch i bawb am eu brwdfrydedd a’u cefnogaeth dros y dair blynedd diwethaf wrth i ni baratoi ar gyfer llwyfannu’r Eisteddfod yn Llancaiach Fawr.

“Ry’n ni bellach yn edrych ymlaen yn eiddgar at fwynhau’r holl gystadlu a gweithgareddau ac at groesawu ymwelwyr o bob cwr o Gymru i’n milltir sgwâr ninnau.”

Ychwanegodd Y Cynghorydd Keith Raynolds, Arweinydd Cyngor Sir Bwrdeistref Caerffili: “Mae cynnal digwyddiad pwysig a phoblogaidd fel Eisteddfod yr Urdd yn yr ardal yma yn hwb enfawr i Fwrdeistref Sirol Caerffili, ac rydym yn edrych ymlaen i groesawu y degau o filoedd o ymwelwyr fydd yn dod i’r Maes dros y dyddiau nesaf.

“Byddwn yn hoffi diolch hefyd i’r bobl hynny sydd wedi gweithio mor galed i ddod â’r digwyddiad mawr hwn i’r ardal, a dwi’n siŵr y bydd gwaddol Eisteddfod yr Urdd yn cael effaith gadarnhaol a hir dymor ar yr ardal hon am flynyddoedd i ddod.”

Mae modd prynu tocynnau dyddiol ar gyfer ymweld â’r Maes ac ar gyfer y sioeau nos yn y Ganolfan Groeso ar y Maes.