Lliwen Gwyn Roberts a Gareth MacRae Llun: Lowri Rees
Mae merch o Lanuwchllyn wnaeth orfod canslo ei phriodas ar ôl i’w darpar ŵr gael ei alltudio o Gymru i Seland Newydd yn dweud bod llygedyn o obaith y bydd y ddau’n cael priodi wedi’r cyfan.

Mae dyweddi Lliwen Gwyn Roberts, Gareth MacRae o Seland Newydd, wedi llwyddo i gael fisa blwyddyn i fyw yn Iwerddon – sy’n “gam bach” i ffwrdd o Gymru o’i gymharu â’r 12,000 o filltiroedd sydd wedi bod yn eu gwahanu dros yr wythnosau diwetha’, meddai.

Roedd trefniadau priodas y cwpwl mewn lle ar gyfer 4 Gorffennaf a’r briodas yng Nghorwen  wedi’i thalu amdani.

Ond bu’n rhaid canslo’r dathliadau wedi i Gareth MacRae gael ei anfon yn ôl i Seland Newydd gan y Swyddfa Gartref a’i wahardd rhag dychwelyd i Brydain.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref nad ydyn nhw’n gwneud sylw am achosion unigol.

Er hyn, mae canllawiau ar eu gwefan yn dweud bod rhaid cael cynilon werth £62,000 a bod angen i’r partner fod yn ennill £18,000 ers mwy na chwe mis er mwyn aros yn y DU.

‘Cam yn nes’

Y cam cyntaf, yn ôl Lliwen Gwyn Roberts, fydd cael ei chariad i Gymru ar gyfer seremoni fendith.

“Mae pethe’ yn gwella yn ara’ deg bach,” meddai ar ei chyfrif facebook.

“Mae o ‘chydig nes rŵan o leia’. Y gobaith nesa yw gweld os geith o ddod i am wyliau o Iwerddon er mwyn cael y ‘blessing’.

“Mi ydan ni am ddal i drio.”