Protestiadau llynedd i geisio achub y neuadd
Mae Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth wedi mynegi pryderon newydd dros ddyfodol Neuadd Pantycelyn ar ôl cyfarfod â swyddogion y brifysgol neithiwr.
Cafodd y mater ei drafod mewn cyfarfod ddoe rhwng pwyllgor UMCA a dau ddirprwy is-ganghellor o’r brifysgol, Rhodri Llwyd Morgan a Rebecca Davies.
Ychydig dros flwyddyn yn ôl fe gyhoeddodd Prifysgol Aberystwyth y byddai’r neuadd, sydd yn ganolbwynt i’r gymuned o fyfyrwyr Cymraeg yn Aberystwyth, yn aros ar agor ar ôl ymgyrch hir i’w hachub.
Ond mae golwg360 wedi cael arddeall bod swyddogion y brifysgol nawr wedi dweud ei bod hi’n debygol y bydd rhaid cau’r neuadd yn y flwyddyn academaidd nesaf oherwydd bod angen gwneud gwaith atgyweirio.
Bydd penderfyniad terfynol ar ddyfodol y neuadd breswyl yn cael ei wneud mewn cyfarfod o uwch-swyddogion y brifysgol fory.
Cyfarfod llawn i’r myfyrwyr
Fe fydd UMCA yn cynnal cyfarfod brys ar gyfer ei holl fyfyrwyr y prynhawn yma er mwyn trafod y mater, ac fe gadarnhaodd Llywydd UMCA wrth golwg360 bod cynlluniau’r brifysgol a amlinellwyd yn cynnwys cau’r neuadd.
“Fe wnaethon nhw egluro eu safbwynt nhw, ac mi gafodd y pwyllgor gyfle i’w holi nhw am y penderfyniad,” meddai Miriam Williams.
“Fe ddywedon nhw y byddai’n costio’r brifysgol o leiaf tua £125,000 er mwyn cael y lle yn barod i gael ei hagor ym mis Medi, ac roedd trafferthion hefyd efo materion diogelwch tân.
“Rydan ni’n cael trafodaeth y prynhawn yma i egluro beth sy’n digwydd, achos mae dros 50 ohonyn nhw wedi gwneud cais i ddod nôl flwyddyn nesaf, a dydyn nhw ddim yn gwybod os fydd ganddyn nhw gartref eto.”
Yn ôl aelod arall o bwyllgor UMCA roedd awdurdodau’r brifysgol wedi cytuno mewn egwyddor ag argymhelliad pwyllgor gwaith Pantycelyn fod angen adnewyddu’r neuadd.
Ond fe awgrymwyd hefyd nad fyddai hynny’n bosib yn ariannol ar hyn o bryd, ac mae adroddiad tîm gweithredol y brifysgol yn argymell y dylai’r neuadd gael ei chau am y tro.
Pryder y myfyrwyr felly yw nad oes unrhyw gynlluniau pendant gan y brifysgol ynglŷn â phryd allai neuadd Pantycelyn ailagor unwaith eto, os ydyn nhw’n penderfynu ei chau ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Fferm Penglais
Y llynedd fe fu sawl protest gan y myfyrwyr yn erbyn y cynlluniau i gau Pantycelyn, a ddenodd gefnogaeth nifer o Gymry amlwg, ac fe fu hyd yn oed bygythiad gan y myfyrwyr i ymprydio.
Yna fe gyhoeddodd Prifysgol Aberystwyth y byddai’r neuadd yn aros ar agor, gan ddweud y byddai’n cael ei datblygu fel Canolfan Gymraeg a Diwylliant ar y campws.
“Mae hyn yn cynnwys datblygu opsiynau manwl ar gyfer parhad Pantycelyn fel llety arlwyo ar gyfer myfyrwyr sy’n siaradwyr Cymraeg ac yn ddysgwyr y Gymraeg,” meddai datganiad y brifysgol ar y pryd.
Ond mae’r brifysgol hefyd wedi bwrw ymlaen â’u cynlluniau i agor rhan ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn neuaddau newydd Fferm Penglais, ac mae’r ddwy neuadd ar agor bellach.
Cost llety am flwyddyn yn stafelloedd en-suite Fferm Penglais yw £4,928 ar hyn o bryd, o’i gymharu â £3,612 ar gyfer ystafell sengl ym Mhantycelyn.
Rhai o siaradwyr y rali llynedd i achub y neuadd:
Llai o geisiadau
Cafodd UMCA wybod yn y cyfarfod neithiwr bod llai o geisiadau nag arfer wedi cael eu gwneud ar gyfer aros yn neuadd Pantycelyn ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf yn 2015/16.
Ond mae’r myfyrwyr yn mynnu bod hynny oherwydd bod Prifysgol Aberystwyth yn fwriadol wedi annog darpar fyfyrwyr rhag peidio â gwneud cais i aros yn y neuadd oherwydd ansicrwydd am ei dyfodol.
Yn ôl gwefan swyddogol y brifysgol, “Dylai darpar fyfyrwyr sy’n ystyried lletya ym Mhantycelyn fod yn ymwybodol y gallai’r penderfyniadau a wneir parthed dyfodol yr adeilad effeithio ar argaeledd llety yn y neuadd, gan gynnwys ar gyfer 2015/16”.
Mae golwg360 wedi gofyn wrth Brifysgol Aberystwyth am ymateb.