Ystafelly wely yng ngwesty Ffin y Parc, Llanrwst
Yn dilyn y cyhoeddiad bod mwy o bobol wedi ymweld â Chymru’r llynedd, mae’r cyflwynydd Aled Samuel wedi rhestru saith o’i hoff westai – ar gyfer yr wythnos ddelfrydol o wyliau Cymreig.
Mae’r cyflwynydd ar hyn o bryd yn lleisio cyfres ‘Gwesty Parc y Strade’ ar S4C ac felly mae’r daith yn cychwyn yn y gwesty enwog hwnnw yn Llanelli.
Dyma restr o’i hoff westai a’r rhesymau y tu ôl i’r dewis:
- 1. Gwesty Parc y Strade, Llanelli
“Ychydig yn ddifflach yw’r cynllun allanol, ond y bobol sy’n gwneud y lle, ac mae’r staff yn hynod o groesawgar.
“Mae’r ystafelloedd yn gyfforddus, y bwyd yn hyfryd, ac os ydych chi am ymweld â’r llu o atyniadau sydd yn yr ardal, chewch chi ddim gwell.”
- 2. Druidstone, Sir Benfro
“…Mae’r lleoliad yn wefreiddiol. Dyma gasgliad o adeiladau trawiadol. Mae’r prif adeilad yn cynnwys amryw o ystafelloedd gwely o wahanol faint, bar, ystafell fwyta a lolfa.
“Does fawr ddim i’w ddweud am y décor, – mae’r rhan fwyaf ohono wedi ei orchuddio â pheintiadau a ffotograffau…ond fe fyddwch chi yn sicr o ddod yn ôl.”
- 3. Gwesty Cymru, Aberystwyth
“Os ydych chi’n aros yn Aberystwyth, mae’n rhaid ichi fod ar y ffrynt. Naill ai i weld gerwinder y creigiau a thonnau gwyllt y môr, neu i werthfawrogi nosweithiau llonydd gyda’r dŵr fel llaeth, hyn oll o ffenest eich ystafell.
“Mae’r stafelloedd yn glud, a chyfforddus, y cynllunio’n fodern, a’r bwyd yn dda. Trïwch gael stafell yn wynebu’r er mwyn gallu gwerthfawrogi’r bae yn ei holl ogoniant yn y bore.”
- 4. Gwesty Penhelig, Aberdyfi
“Mae gwesty’r Penhelig ar y ffordd i mewn i Aberdyfi ar y dde. Er, mwy na thebyg chewch chi ddim bwcio mewn i’ch stafell yn ystod y bore, trefnwch i adael eich bagiau, a pharcio’r car yn y maes parcio gyferbyn â’r gwesty.
“Tu ôl i’r Penhelig mae’r orsaf reilffordd. Ffoniwch Westy Castell Deudraeth ym Mhortmeirion fwcio bwrdd am ginio i ddau, dywedwch wrthyn nhw pryd fyddwch chi’n cyrraedd Minffordd ac fe ddaw rhywun o Bortmeirion i’ch hebrwng chi i’r gwesty.”
- 5. Cross Foxes, ger Dolgellau
“Am flynyddoedd bu’r lle ar gau ac mewn cyflwr truenus, ond nawr mae e’n westy modern soffistigedig gyda bwyty arbennig a bar sy’n agored i bawb ac yn lle perffaith i ymlacio ynddo. Mae’r ystafelloedd gwely i gyd yn unigryw a phob un wedi’i chynllunio’n wahanol. Gofynnwch am stafell yn y to – maen nhw dipyn yn ddrutach ond hefyd yn fwy moethus.”
- 6. Ffin-y-Parc, ger Llanrwst,
“Hen dŷ bonedd sy’n westy erbyn hyn ac oriel gelf brysur. Pedair stafell a bwthyn ar wahân sydd yma a phrin y gwelwch chi’r math foethusrwydd yn unrhyw westy arall yng Nghymru.
“Fe ail strwythurwyd yr adeilad, er mwyn gwneud y gorau o’r lleoliad a’r golygfeydd, a does dim dime wedi mynd yn wastraff. Mae pob manylyn wedi cael ystyriaeth, er mwyn gwneud eich arhosiad yn berffaith, ac rwy’n amau byddwch chi eisiau gadael ond gadael bydd rhaid achos mae un gwesty arall i fynd.”
- 7. Manorhaus, Dinbych
“Mae’r Manorhaus yn westy arall sy’n britho’i waliau â chelfyddyd gyfoes. Nid yn unig yw’r ystafelloedd yn wahanol o ran siâp ffurf a diwyg, mae pob un hefyd yn oriel o fath, wedi ei henwi ar ôl gwaith yr artist, sy’n arddangos oddi mewn.
“Fe allwch fwcio sawna personol, fe allech drefnu gwylio ffilm gyda’ch ffrindiau yn y sinema breifat lawr yn y selar, eistedd yn y llyfrgell, neu ryfeddu at gynllun eich ystafell. Trïwch eich gorau i godi, achos mae’r bwyd yn y bwyty yn arbennig.”
Cafodd her Aled Samuel ei gosod gan S4C.