Bydd 250 o blant dwy i bedair oed yn cymryd rhan ym mhasiant Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerffili ar Fai 30.

Bydd y Pasiant Meithrin tua 20 munud o hyd yn cael ei berfformio ar lwyfan y Pafiliwn am 10.15yb, a’r thema eleni yw ‘Y Tywydd a’r Tymhorau’.

Ben Jones yw awdur y sgript, a Nia Parker yw Swyddog Cefnogi Mudiad Meithrin sydd yn cydlynu’r digwyddiad.

Bydd y pasiant yn cynnwys caneuon sydd wedi cael eu hysgrifennu gan Paul Gregory, un hanner o’r Brodyr Gregory, yn arbennig ar gyfer y Mudiad Meithrin.

Mewn datganiad, dywedodd Nia Parker: “Mae’r plant wrth eu boddau yn cymryd rhan, ac mi fydd yn brofiad bythgofiadwy iddyn nhw a’u teuluoedd!”

Yn ystod parti yn dilyn y pasiant, fe fydd pob plentyn sy’n cymryd rhan yn derbyn tystysgrif i nodi’r achlysur.

‘Perfformiad bywiog’

Dywedodd un arall o drefnwyr y pasiant, Leanne Marsh: “Rydym yn  hynod o ddiolchgar i bawb am eu cydweithrediad parod i lwyfannu’r Pasiant Meithrin eleni yn enwedig i Ben Jones am sgriptio, i’r holl arweinyddion, i’r rhieni sydd wedi bod yn brysur yn paratoi’r plant tuag at y perfformiad arbennig yma – ac yn bennaf oll i’r holl blant fydd yn serennu ar y llwyfan.

“Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i Sam Williams ac Ieuan Bradley – y ddau yn ddisgyblion blwyddyn 10 yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, sy’n adrodd y stori yn y Pasiant.

“Mae Ieuan a Sam wedi mynychu Cylch Meithrin Coed Duon a Chylch Meithrin Y Wern ac yna  Ysgol Gynradd Trelyn pan oeddent yn iau, ac yn dod o gartrefi di-Gymraeg, ond wrth barhau a’u haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg mae’r ddau yn hollol rugl yn y Gymraeg bellach.

“Mi fydd y Pasiant yn berfformiad bywiog a lliwgar ac yn ffordd wych o hyrwyddo addysg Gymraeg fel y cychwyn gorau posib i blant bach Sir Caerffili.”