Mae ymchwiliad ar y gweill ar ôl i ddwy ddynes gael eu hachub wedi tân mewn tŷ yng Nghaernarfon.

Cafodd criwiau’r gwasanaeth tân yng Nghaernarfon a Llanberis eu galw i’r tŷ yng Ngogledd Penrallt am 4.30 y bore ma.

Cafodd y ddwy ddynes 27 a 65 oed eu hachub o lawr cynta’r adeilad, a’u cludo i’r ysbyty.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Roedd y bobol yn y tŷ yn ffodus dros ben fod y larwm tân wedi rhoi rhybudd iddyn nhw am y tân.

“Roedd modd i weithredwyr rheoli tanau roi cyngor a sicrwydd dros y ffôn tra bod diffoddwyr ar eu ffordd ac wrth iddyn nhw ddod o hyd i’r bobol yn y tŷ.

“Mae’r digwyddiad yn dangos pa mor bwysig yw sicrhau bod gennych chi larwm tân sy’n gweithio yn eich eiddo – fe allai olygu’r gwahaniaeth rhwng byw a marw.”