Yr Uwcharolygydd Marc Budden o Heddlu Gwent y tu allan i'r fflatiau ddoe
Mae Heddlu Gwent yn parhau i holi dyn 49 oed a gafodd ei arestio ddoe ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn tân mewn bloc o fflatiau yng Nghwmbrân.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 6:43 bore dydd Mawrth i eiddo ar Heol Shakespeare yn ardal St Dials y dref.
Daethpwyd o hyd i gorff Samantha Thomas, 29 oed, o Gwmbrân yn yr adeilad ar ôl i’r tân gael ei ddiffodd.
Cafodd dyn 49 oed o Gwmbrân hefyd ei gludo i Ysbyty Brenhinol Gwent gydag effeithiau anadlu mwg a’i arestio’n ddiweddarach ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Roedd y fflat ble’r oedd y tân yn un o bedwar fflat yn y bloc. Cafodd y bobl sy’n byw yn y fflatiau eraill eu symud o’r adeilad ac mae’r heddlu wedi bod yn gweithio gyda’r awdurdod lleol a chymdeithasau tai i drefnu llety ar eu cyfer.
Mae disgwyl i arbenigwyr ddechrau archwilio’r fflat heddiw.
Mae’r heddlu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i ffonio 101 gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 33 19/05/15.