BBC Cymru Fyw
Mae gwefan BBC Cymru Fyw wedi awgrymu bod mwy o bobol yn defnyddio gwasanaethau technoleg Cymraeg nag erioed o’r blaen yn dilyn cynnydd sylweddol yn nifer ei defnyddwyr.
Dangosodd y ffigyrau bod bron i 30,000 o ddefnyddwyr unigryw yn pori ar y wefan bob wythnos – sy’n gynnydd o’r 10,000 o bobol oedd yn ei defnyddio’n wythnosol pan gafodd ei lansio’r llynedd.
Mis Ebrill 2015 oedd mis mwyaf poblogaidd Cymru Fyw hyd yma, gyda mwy na 33,000 o borwyr unigryw yn ymweld â’r safle bob wythnos.
“Mae pobol o bob oed yn newid y ffordd y maen nhw’n defnyddio technoleg yn gyflym – yn enwedig gyda ffonau symudol a thabledi – ac felly mae’n bwysicach fyth ein bod yn cynnig gwasanaethau digidol yn Gymraeg sydd yn berthnasol a hefyd yn hygyrch,” meddai Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru, Sian Gwynedd.
Radio Cymru
Mae Radio Cymru hefyd wedi gweld cynnydd sylweddol ym mhoblogrwydd ei bodlediadau dros y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl y BBC.
Cafodd mwy na 35,000 o bodlediadau’r eu lawrlwytho ym mis Chwefror, gan gyrraedd 46,749 – y nifer uchaf erioed – ym mis Mawrth.
Y tri podlediad mwyaf poblogaidd yw Beti a’i Phobol, Pigion a Stori Tic Toc.