Cynlluniau ar gyfer YM Ponty
Mae cynlluniau gwerth £6 miliwn i drawsnewid adeilad y ‘YM Ponty’ (YMCA Pontypridd) yn ganolfan ddiwylliannol a chymunedol yn cael eu datgelu heddiw.

Ond – er eu bod wedi sicrhau’r rhan fwyaf o’r cyllid – mae swyddogion y ganolfan yn chwilio am nawdd pellach o £1.7 miliwn gan ymddiriedolaethau, sefydliadau a phobol leol er mwyn medru gwireddu’r freuddwyd yn llawn.

Y bwriad wrth ailwampio’r ganolfan yw creu canolbwynt i ddatblygu doniau a chreadigrwydd trigolion a “symbylu adfywiad a ffyniant”.

Bydd y gwaith yn cael ei arwain gan bensaer Canolfan Mileniwm Cymru Jonathan Adams ac  mae’r Llywodraeth a Chyngor Celfyddydau Cymru wedi cyfrannu £4.25 miliwn.

Potensial creadigol

Wrth ddatgan cefnogaeth i’r prosiect, meddai Kath Davies, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Buddsoddi a Chyllido ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru: “Bydd YM Ponty yn gwneud cyfraniad sylweddol i gynaladwyedd a gwytnwch hir dymor yr ardal ac yn gwella’r gallu i gyflwyno celfyddyd ragorol a diwylliant i’r gymuned leol a thu hwnt.

“Bydd y prosiect hwn hefyd yn hyrwyddo’r cyfle i bobol ifanc gyflawni eu potensial creadigol.”

Ychwanegodd Lesley Griffiths y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi mai gweledigaeth Llywodraeth Cymru yw bod pawb yng Nghymru yn byw mewn “cymunedau llewyrchus lle ceir cyfleusterau rhagorol ac ansawdd byw da”:

“Mae’r cynlluniau cyffrous hyn ar gyfer YMCA Pontypridd yn sicr o weddnewid yr adeilad eiconig hwn ac adfywio’r ardal leol.”

Gweledigaeth

Yn ogystal â sefydlu canolfan gymunedol o’r radd flaenaf, bydd y prosiect yn parhau gyda gwaith cymuned Pontypridd ym mlynyddoedd cyntaf yr ugeinfed ganrif, pan benderfynodd dosbarth gweithiol y dref gasglu a chyfrannu arian i adfywio’r YMCA.

Ar y pryd, roedd diffyg arian yn golygu na ellid cwblhau’r adeilad yn llwyr, a rhoddwyd y gorau i gynlluniau i adeiladu dau lawr arall i’r adeilad.

Bydd YM Ponty yn agor ei ddrysau ar ddydd Iau, 4 Mehefin. I ddarganfod mwy am yr apêl, ewch i www.ymcapontypridd.org