Matthew Rees
Mae Gleision Caerdydd wedi cadarnhau y bydd y bachwr Matthew Rees yn gadael y rhanbarth ar ddiwedd y tymor wrth i’w gytundeb ddod i ben.

Mae Rees yn un o saith chwaraewr fydd yn cael eu rhyddhau gan y Gleision ar ôl gêm olaf eu tymor fory yn erbyn Zebre.

Bydd y prop Adam Jones hefyd yn gadael, gan symud i Loegr i chwarae dros yr Harlequins y tymor nesaf, ac mae’r maswr Simon Humberstone yn ymuno â Doncaster.

Fe fydd y ddau Archentwr Lucas Amorosino a Joaquin Tuculet, yn ogystal â Filo Paulo a Marc Breeze, hefyd yn gadael ar ddiwedd y tymor.

Dyw’r rhanbarth dal heb benodi rheolwr parhaol ar gyfer y tymor nesaf eto.

“Hoffwn ddiolch i’r holl chwaraewyr am eu hymroddiad i Gleision Caerdydd yn ystod eu hamser gyda’r rhanbarth ac rydym yn dymuno’n dda iddynt wrth iddyn nhw ganfod heriau newydd yn eu gyrfa,” meddai rheolwr cyffredinol y Gleision, Billy Millard.

“Fe fyddwn ni’n talu teyrnged i’w cyfraniad gyda chyflwyniad iddyn nhw ar y cae ar ôl y gêm gartref yn erbyn Zebre dydd Sadwrn.

“Mae wastad newidiadau i unrhyw garfan adeg hyn o’r flwyddyn wrth i chi gynllunio am y dyfodol, a phan fydd ein prif hyfforddwr newydd yn cael ei benodi fe fydd e hefyd yn gweithio ar y broses o recriwtio a chadw chwaraewyr.”