Bydd gig yn cael ei chynnal yn Neuadd Ogwen ym Methesda nos Sadwrn i godi arian at yr ymgyrch yn erbyn gorsaf niwcliar arfaethedig Wylfa Newydd ym Môn.

Trefnwyr y noson yw mudiad PAWB –  Pobl Atal Wylfa B – a bydd band o lwyth y Mohac o’r Unol Daleithiau ymysg y rhai ar y llwyfan.

Y bandiau lleol sy’n cymryd rhan yw  Ceffylau Lliwgar, Gwenno, Radio Rhydd, y Welsh Whisperer.

Yn ogystal â chanu caneuon bydd y Mohociaid yn siarad am eu hagweddau tuag at yr amgylchedd.

Dywedodd y trefnwyr: “Mae’r artistiaid i gyd yn chwarae i gefnogi’r achos a bydd Ceffylau Lliwgar yn agor a chloi’r noson gyda’u cân brotest gwrth-niwcliar ‘Fukushima’.”