Toby Belfield, pennaeth Ysgol Rhuthun
Mae Prifathro ysgol breifat yn Rhuthun wedi beirniadu addysg Gymraeg gan ddweud ei fod yn un o’r rhesymau sy’n dal pobl ifanc Cymru yn ôl.

Mewn llythyr ym mhapur wythnosol y Denbighshire Free Press, mae Toby Belfield yn beirniadu’r drefn addysg yng Nghymru, gan awgrymu bod y Gymraeg yn  niweidio’r system addysg.

Ar yr un pryd mae’n cyhuddo pobl sy’n dymuno i’w plant aros i astudio yng Nghymru o fod yn “gul” eu meddwl.

Mae ymateb chwyrn i’w sylwadau wedi bod ar Twitter gan gynnwys gan AC Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, gydag un yn dweud fod ei agwedd yn “warthus” ac yn “hen ffasiwn”. Nid dyma’r tro cyntaf i Toby Belfield leisio’i farn am addysg yng Nghymru.

‘Cul’

Mae’r Prifathro yn honni fod plant Cymraeg iaith gyntaf yn cael eu rhwystro rhag cael mynediad i brifysgolion blaenaf Prydain, fel y mae’n egluro: “Mae disgyblion sy’n Gymraeg iaith gyntaf yn llai tebyg o gael mynediad i brifysgolion uchel eu parch ym Mhrydain. Ni fyddai hyn yn broblem i bobl gul eu meddwl sy’n dymuno i’w plant aros am byth yng Nghymru.”

Mae Toby Belfield yn disgrifio’r system addysg yng Nghymru ‘ymhlith y gwanaf yn y byd’, ac yn pwyntio bys at addysg Gymraeg orfodol fel un o’r rhesymau,  “Pam fod y drefn addysg yng Nghymru ymhlith y wanaf yn y byd – oherwydd o bosib y rheidrwydd i bobl ifanc mewn rhai ysgolion i ddysgu Cymraeg.”

Efelychu Lloegr

Mae’n galw ar Gymru i efelychu Lloegr gan wneud y Saesneg yn brif iaith mewn addysg: “Mae’n hen bryd i rieni agor eu meddyliau i gyfleoedd ar gyfer plant y tu hwnt i Gymru. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen i’r drefn addysg yng Nghymru fod yn gryf fel y sustem yn Lloegr sy’n golygu mai Saesneg fyddai’r brif iaith.”

Mae’n cydnabod fod y Gymraeg yn draddodiad sy’n bwysig ond fod hynny ar draul y system addysg: “Mae traddodiad a threftadaeth yn bwysig – ond rydym yn lleihau cyfleoedd sydd ar gael i blant yng Nghymru, trwy orfodi trefn addysg Gymreig arnynt sydd ddim yn ffit i bwrpas.”

‘Anwybodaeth’

Dywedodd Heini Gruffudd ar ran Mudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg  (RhAG) bod sylwadau  Toby Belfield yn dangos anwybodaeth o fanteision dwyieithrwydd.

“Mae’n anghredadwy bod pennaeth ysgol fonedd Rhuthun yn dangos anwybodaeth lwyr am fanteision dwyieithrwydd,” meddai.

“Mae hen ddigon o astudiaethau wedi dangos manteision addysg ddwyieithog, nid yn unig o ran gallu ieithyddol, ond o ran dysgu’n gyffredinol.

“Mae’r cyfaill fel pe bai heb wybod chwaith sut mae cynifer o ddisgyblion ysgolion Cymraeg yn rhagori ar ysgolion Saesneg o ran gallu yn y Saesneg, heb sôn am y Gymraeg.”

Ychwanegodd Heini Gruffudd: “Os yw Mr Belfield o ddifri’n poeni am safonau addysg yng Nghymru, mae angen iddo astudio effaith tlodi a difreintedd ar gyraeddiadau.”

‘Sylwadau anacronistig’

Mae Cymdeithas yr Iaith hefyd wedi condemnio sylwadau Prifathro Ysgol Rhuthun.

Dywedodd llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith, Ffred Ffransis: “Mae syniadau rhyfedd Mr Belfield bron yr un mor anacronistig â’r syniad y dylai fod ysgolion preifat yng Nghymru o hyd yn yr 21ain ganrif.

“Mae pob astudiaeth wrthrychol yn dangos bod plant sy’n dod yn rhugl yn y Gymraeg yn perfformio’n well yn addysgol.”

Ychwanegodd Ffred Ffransis: “Mae’n debyg nad yw wedi darllen y ddau adolygiad annibynnol ynglŷn â dysgu’r Gymraeg mewn ysgolion Saesneg, sy’n pwysleisio’r manteision di-ri a ddaw wrth i ddisgyblion dod yn ddwyieithog. Dylai fe fynd yn ôl i’r ysgol i gael ei ail-addysgu.

“Byddwn ni’n gofyn i’r Gweinidog Addysg i adolygu bodolaeth ysgolion preifat fel yr un mae fe yn ei rhedeg.”

Nid oedd Adran Addysg Llywodraeth Cymru yn fodlon  gwneud sylw ar y mater.