Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi rhybuddio y gallai dyfodol ariannol S4C fod yn y fantol os yw’r Ceidwadwyr yn bwrw ymlaen â’u cynlluniau ar ddarlledu.

Rhybuddiodd yr Arglwydd Roger Roberts y gallai cynlluniau i newid neu gael gwared â ffi drwyddedu’r BBC fygwth cyllideb y sianel Gymraeg hefyd.

Ar hyn o bryd mae dros dri chwarter o gyllideb S4C, rhyw £76miliwn, yn cael ei hariannu o’r ffi drwyddedu.

Ond mae awgrym bod rhai Ceidwadwyr blaenllaw, gan gynnwys yr Ysgrifennydd Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon newydd John Whittingdale, yn awyddus i newid y drefn.

Newid ar fyd?

Yn gynharach fe ddywedodd cadeirydd S4C Huw Jones ei fod yn “croesawu” penodiad John Whittingdale, gan ychwanegu ei fod yn edrych ymlaen at gydweithio ag ef.

Mae cyfarwyddwr cyffredinol y BBC, Tony Hall, hefyd wedi dweud y bydd angen cydweithio â’r Ysgrifennydd newydd gan ddweud na all y gorfforaeth “ymwrthod rhag newid”.

Yn y gorffennol mae John Whittingdale ac aelodau eraill o’i blaid, megis Maer Llundain, Boris Johnson, wedi dweud bod angen cael gwared â’r ffi drwyddedu.

Ac yn ôl adroddiadau fe allai’r Llywodraeth Geidwadol gael gwared â’r drosedd o beidio â thalu ffi’r drwydded deledu, rhywbeth allai gostio’r BBC tua £200m y flwyddyn.

“Dinistrio ein sianel Gymreig”

Ond mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi awgrymu y gallai’r cynlluniau hynny beryglu bodolaeth yr unig sianel deledu Gymreig.

“Y cwestiwn yw, a yw’r Ceidwadwyr yn bwriadu dinistrio ein sianel deledu Gymreig? Os nad ydyn nhw, mae’n rhaid egluro ar unwaith sut y bydd S4C yn cael ei hariannu,” meddai Roger Roberts.

“Rydw i’n bryderus tu hwnt am beth fyddai’r cynlluniau yma’n ei olygu ar gyfer dyfodol ein gwasanaeth Cymraeg.

“Rydw i’n cofio’r frwydr i sicrhau arian oddi wrth y ffi drwyddedu pan gafodd y setliad presennol ei gytuno; fe chwaraeodd y Democratiaid Rhyddfrydol ran amlwg yn y frwydr honno.

“Mae cynlluniau’r Ceidwadwyr i addasu ac o bosib cael gwared â ffi drwyddedu’r BBC yn peri bygythiad i ddarlledu yn y Deyrnas Unedig.

“Cafodd S4C ei geni ar ôl brwydr fawr a heddiw mae’n haeddu ein cefnogaeth lawn. Mwy nag unrhyw beth, mae wedi gwneud cyfraniad enfawr at ddiogelu’n hiaith.”