Gareth Vincent Hall
Mae dyn 22 oed o ogledd Cymru, sy’n cael ei gyhuddo o gipio a threisio merch 10 oed yn nhalaith Oregon yn America, yn destun ymchwiliad gan yr FBI – yn sgil amheuon ei fod wedi teithio i daleithiau eraill i gam-drin pobol yn y gorffennol.
Fe ddywedodd llefarydd yr FBI, Gerald Dezsofi, wrth orsaf deledu leol KMTR bod pryderon “y gallai fod yna fwy o ddioddefwyr” a’i fod yn “cyhoeddi’r wybodaeth i gymaint o bobol ag sy’n bosib”.
Roedd Gareth Vincent Hall o Dalysarn ger Caernarfon yn swyddog achub bywyd ym mhwll nofio Canolfan Hamdden Arfon, cyn iddo gael ei wahardd o’i waith ym mis Hydref 2014 yn dilyn ymchwiliad ar wahân gan Heddlu Gogledd Cymru.
Ar ôl cael ei arestio yn ninas Eugene yn Oregon, cafodd Hall ei gyhuddo o dreisio, sodomiaeth a herwgipio.
Fe deithiodd i Eugene ym mis Ebrill ar ôl bod yn siarad â’r ferch 10 oed dros y we am ddeufis, yn ôl yr Heddlu yn Eugene.
Mae Cyngor Gwynedd wedi dweud y byddai’n “amhriodol” cynnig sylw ar y mater.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cydweithio gyda Heddlu Oregon.